Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 22 Mis Tachwedd 2023
Bro Morgannwg
Yn 2022, ffurfiodd y Cyngor bartneriaeth â Chyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru i wneud y gorau o effeithiolrwydd monitro teledu cylch cyfyng ar draws y rhanbarth.
Ochr yn ochr â'r trefniant monitro newydd, fe wnaeth y bartneriaeth hefyd ariannu uwchraddio 78 o gamerâu sefydlog ar draws y Barri, a Llanilltud Fawr, a gosod camerâu newydd yn Dock View Road, Sgwâr y Brenin, Gorsaf Drenau y Rhws, Esplanâd Penarth, a Stryd Fawr y Bont-faen.
Bydd y rhwydwaith camerâu newydd yn cael ei fonitro 24/7 yn ystafell reoli Cyngor Caerdydd a chyfleuster gwylio newydd yng Ngorsaf Heddlu'r Barri, gan roi'r gallu i'r Cyngor a Heddlu De Cymru ymateb i faterion yn gyflymach.
Dywedodd Sandra Perkes, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai'r Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid: "Rwy'n falch iawn bod y gwaith o uwchraddio teledu cylch cyfyng y Fro wedi ei gwblhau ac edrychaf ymlaen at glywed mwy o straeon llwyddiant ar y ffordd y mae'r rhwydwaith newydd o gamerâu yn cadw ein cymunedau'n ddiogel. "Bydd y system newydd yn cefnogi'r bartneriaeth wrth weithredu atebion amser real i faterion, nodi troseddwyr, ac atal gweithgaredd troseddol, gan sicrhau yn y pen draw bod y Fro yn parhau i fod yn lle diogel a dymunol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef."
Dywedodd Sandra Perkes, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai'r Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid: "Rwy'n falch iawn bod y gwaith o uwchraddio teledu cylch cyfyng y Fro wedi ei gwblhau ac edrychaf ymlaen at glywed mwy o straeon llwyddiant ar y ffordd y mae'r rhwydwaith newydd o gamerâu yn cadw ein cymunedau'n ddiogel.
"Bydd y system newydd yn cefnogi'r bartneriaeth wrth weithredu atebion amser real i faterion, nodi troseddwyr, ac atal gweithgaredd troseddol, gan sicrhau yn y pen draw bod y Fro yn parhau i fod yn lle diogel a dymunol i fyw, gweithio ac ymweld ag ef."