Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cyhoeddi rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod  

The Vale of Glamorgan Council has published its Annual Delivery Plan (ADP), which sets out the areas of focus for the organisation for the next twelve months. 

 

  • Dydd Llun, 08 Mis Ebrill 2024

    Bro Morgannwg



Mae'r CCB eleni wedi’i lywio o gwmpas ein pedwar Amcan Lles sef: 

  • Amcan Un: Gweithio gyda a thros ein cymunedau 
  • Amcan Dau: Ategu dysgu, cyflogaeth a thwf economaidd cynaliadwy 
  • Amcan Tri: Cynorthwyo pobl gartref ac yn eu cymuned 
  • Amcan Pedwar: Parchu, gwella a mwynhau ein hamgylchedd 

Yr amcanion hyn yw'r meysydd blaenoriaeth a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol 2020-25. Dyma'r bumed flwyddyn a'r flwyddyn olaf o gyflawni camau gweithredu i gyflawni'r amcanion hyn.   

 

Yn ogystal â chyflawni'r CCB hwn, bydd Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2025-2030 yn cael ei ddatblygu dros y deuddeg mis nesaf i nodi meysydd blaenoriaeth y Cyngor dros y pum mlynedd nesaf.    

 

Mae'r CCB hefyd yn manylu ar dair her hanfodol a fydd yn llywio llawer o weithgareddau'r Cyngor yn y flwyddyn sydd i ddod wrth i'r Cyngor barhau i ymdrechu i wneud y Fro yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.   

 

Mae’r tair her hanfodol fel a ganlyn:   

  • Gwydnwch Sefydliadol (ein pobl, arian, asedau ac ymgysylltu â’r cyhoedd) 
  • Argyfwng Costau Byw  
  • Yr Argyfyngau Hinsawdd a Natur 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rydym wedi wynebu llawer o heriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond trwy waith caled ac ymroddiad ein cydweithwyr a'n partneriaid rydym wedi wynebu'r heriau hyn yn uniongyrchol.  

 

"Mae'r cynllun hwn yn adlewyrchu'r egwyddorion craidd sy'n sail i'n sefydliadau sy'n ein galluogi i gyflawni ar gyfer trigolion Bro Morgannwg. Mae ein gwerthoedd sefydliadol sef uchelgeisiol, balch, gyda'n gilydd ac agored yn parhau'n wir a byddwn yn parhau i ymgorffori'r gwerthoedd hyn wrth i ni gyflawni'r ymrwymiadau yn y cynllun hwn.”

 

Bydd cynnydd yn erbyn yr amcanion a nodir yn y cynllun yn cael ei adrodd i bwyllgorau'r Cyngor bob chwarter i roi trosolwg i aelodau etholedig ac i roi iddynt hefyd gyfle i graffu ar y gwaith hwn.  

 

Gall aelodau'r cyhoedd hefyd fynychu cyfarfodydd pwyllgorau a gofyn cwestiynau i aelodau etholedig yn ogystal â chymryd rhan mewn ymgysylltu ac ymgynghori drwy gydol y flwyddyn sy'n helpu i lywio gwaith y Cyngor.  

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y cynllun llawn, ewch i wefan y Cyngor.