Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor i uwchraddio cyfleusterau chwaraeon y Barri 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi datgelu cynlluniau uchelgeisiol i uwchraddio cyfleusterau chwaraeon yn ardal Colcot a Buttrills yn y Barri, gan gynnig mwy o gyfleoedd am weithgarwch corfforol, yn enwedig i fenywod a merched. 

  • Dydd Mercher, 10 Mis Ebrill 2024

    Bro Morgannwg


 

 

Dan y cynigion, bydd ystafelloedd newid yn cael eu hadeiladu yng Nghanolfan Gymunedol Buttrills, yn agos at gaeau chwaraeon presennol, ynghyd â maes parcio newydd. Bydd y maes parcio presennol yn cael ei ymestyn a bydd mannau gwefru Cerbydau Trydan yn cael eu gosod. 

 

Mae'r ystafelloedd newid hyn, fydd mewn pafiliwn newydd, wedi'u cynllunio i safonau Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac maent yn cydymffurfio'n llawn â'r gofynion ar gyfer pêl-droed menywod a merched, y gweithgaredd chwaraeon sy'n tyfu gyflymaf yn y Fro.  Ar hyn o bryd, ac eithrio Parc Jenner, nid oes ystafelloedd newid yn y Barri sy'n bodloni'r safonau hyn. 

 

Byddant yn disodli'r cyfleusterau hen ffasiwn yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot, fydd hefyd yn cael ei gwella yn y dyfodol. 

  

 

Buttrills community centre

Bydd ardal ar gyfer reidio beiciau, a elwir yn drac pwmpio beiciau, yn cael ei chreu yno, ynghyd â maes chwarae newydd ac ardal chwaraeon aml-ddefnydd o bosibl. Byddai'r tri o'r cyfleusterau hyn yn rhad ac am ddim i'w defnyddio gan y gymuned leol. 

 

Bydd y gwaith yn cael ei ariannu'n rhannol drwy gyllid grant a thrwy adeiladu eiddo ar dir ystafelloedd newid a maes parcio presennol Canolfan Chwaraeon Colcot a'r hen Gae Pob Tywydd, a bydd llawer ohonynt yn gartrefi Cyngor, y mae mawr eu hangen. 

 

Nid yw'r cae hwnnw wedi cael ei ddefnyddio ers pum mlynedd ac nid oes ei angen mwyach o ystyried y cyfleusterau sydd ar gael yn ysgolion uwchradd y Barri gerllaw a Pharc Jenner yn dilyn buddsoddiad helaeth gan y Cyngor. 

 

Trwy adleoli Caeau Pob Tywydd i safleoedd ysgolion, gellir gwneud y defnydd mwyaf o'r adnoddau gwerthfawr hyn, gan ddisgyblion yn ystod y dydd a'r cyhoedd ar adegau eraill. 

 

Yr arwynebau yn ysgolion Whitmore a Bro Morgannwg sydd fwyaf addas ar gyfer pêl-droed a rygbi yn y drefn honno, gyda Phencoedtre yn cynnig cae hoci i safon clwb, er bod pob arwyneb yn addas ar gyfer gwahanol chwaraeon. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Bydd y gwaith uwchraddio sylweddol hwn o gyfleusterau chwaraeon yn ardal Colcot yn golygu bod ystafelloedd newid sy'n heneiddio yn gwneud lle ar gyfer cyfleusterau modern iawn sy’n agos at y caeau y maent yn eu gwasanaethu. 

 

"Mae hwn yn drefniant llawer gwell na'r un sydd ar waith ar hyn o bryd sy'n golygu bod chwaraewyr yn croesi ffordd brysur ar ôl newid mewn amgylchoedd adfeiliedig. 

 

"Drwy uwchraddio cyfleusterau ar safle Buttrills, rydym hefyd yn obeithiol y gallwn sicrhau cyllid grant i gefnogi'r sîn bêl-droed menywod a merched sy'n tyfu'n gyflym yn y Barri, arian nad yw ar gael heb waith o'r fath. 

 

"Yn ogystal, bydd y prosiect hwn yn helpu i ddarparu datblygiad tai Cyngor newydd i ateb y galw digynsail am y math hwn o lety, gyda rhestrau aros ar ei uchaf erioed. 

 

"Mae sefyllfa ariannol heriol y Cyngor wedi'i gwneud yn glir dros y misoedd diwethaf mewn perthynas â'r broses o bennu'r gyllideb. 

  

"Mae'n rhaid i ni fod yn graff ac yn greadigol o ran sut rydyn ni'n cyflawni prosiectau cymunedol. Mae'r cynigion hyn yn enghraifft berffaith o'r dull arloesol hwnnw." 

 

Gall y cyhoedd gael gwybod mwy am y prosiect mewn sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot rhwng 4pm a 7pm ddydd Iau, 18 Ebrill. 

 

Bydd unrhyw bartïon â diddordeb hefyd yn gallu rhannu eu barn drwy dudalen Cymryd Rhan y Fro y Cyngor ac fel rhan o'r broses gynllunio ar ôl cyflwyno’r cynigion. 

 

Dywedodd Mark Harvey, Cadeirydd Cynghrair Bêl-droed Bro Morgannwg: "Fel cynghrair sydd, mae’n debyg, â'r aelodaeth fwyaf o unrhyw sefydliad gwirfoddol ym Mro Morgannwg, gallaf gadarnhau ein bod yn llwyr gefnogol o'r cynigion hyn. 

 

"Rydym yn hynod falch bod gennym tua 4,000 o chwaraewyr pêl-droed wedi’u cofrestru ar hyn o bryd ac mae'r nifer honno’n parhau i dyfu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae twf pêl-droed menywod a merched yn arbennig wedi bod yn anhygoel ac fel cynghrair rydym wedi bod yn awyddus i groesawu hyn. 

 

"Dydw i ddim yn credu y byddai llawer o bobl yn dadlau mai'r Ganolfan Chwaraeon a'r 'Butts' yw cartref pêl-droed llawr gwlad y Fro. Ac eto mae gennym gyfleusterau ar y safle hwn sy'n dyddio o'r 1960au, sydd mewn cyflwr gwael, sy’n methu bodloni'r rheoliadau presennol ac sydd, ar y cyfan, wedi'u lleoli ar ochr anghywir ffordd Colcot sy'n hollti’r ddau safle. 

 

"Mae'r cyfleusterau presennol yn golygu bod clybiau'n cael eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn cynghreiriau uwch oherwydd rheoliadau meini prawf y cae chwarae. Hoffem weld cynghrair menywod yn y Fro yn y blynyddoedd i ddod, ond byddai angen cyfleusterau arnom sy'n caniatáu i hyn ddigwydd. Byddai'r cynigion yn y Buttrills yn darparu'r rhain."