Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 15 Mis Awst 2024
Bro Morgannwg
Derbyniodd disgyblion chweched dosbarth ar draws y Sir eu graddau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol heddiw a gallant nawr ddechrau cynllunio cam nesaf eu taith addysg neu i fyd cyflogaeth.
"Hoffwn rannu fy nymuniadau gorau i holl fyfyrwyr y Fro a dderbyniodd eu canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol heddiw," meddai'r Cynghorydd Birch. "Llongyfarchiadau i'r nifer sy'n dathlu ar ôl perfformiad ardderchog arall i'r Sir. Mae llawer o ymdrech wedi mynd i gyflawni'r llwyddiant hwn, felly rwy'n gobeithio y bydd ein disgyblion chweched dosbarth yn mwynhau’r foment. "Mae llawer iawn o waith caled hefyd yn cael ei wneud gan athrawon a staff ysgolion, ynghyd â chefnogaeth gan rieni, ac mae'r grwpiau hyn hefyd yn haeddu cydnabyddiaeth ar adeg fel hon. "Byddwn yn annog disgyblion i fwynhau eu cyflawniadau, a beth bynnag y byddant yn ei wneud, rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt i’r dyfodol. "Wrth gwrs, ni fydd pawb wedi cael y canlyniadau yr oeddent yn dymuno eu cael. I unrhyw un yn y sefyllfa honno, mae cymorth a gwybodaeth ar gael gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru a Llywodraeth Cymru."
"Hoffwn rannu fy nymuniadau gorau i holl fyfyrwyr y Fro a dderbyniodd eu canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol heddiw," meddai'r Cynghorydd Birch.
"Llongyfarchiadau i'r nifer sy'n dathlu ar ôl perfformiad ardderchog arall i'r Sir. Mae llawer o ymdrech wedi mynd i gyflawni'r llwyddiant hwn, felly rwy'n gobeithio y bydd ein disgyblion chweched dosbarth yn mwynhau’r foment.
"Mae llawer iawn o waith caled hefyd yn cael ei wneud gan athrawon a staff ysgolion, ynghyd â chefnogaeth gan rieni, ac mae'r grwpiau hyn hefyd yn haeddu cydnabyddiaeth ar adeg fel hon.
"Byddwn yn annog disgyblion i fwynhau eu cyflawniadau, a beth bynnag y byddant yn ei wneud, rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt i’r dyfodol.
"Wrth gwrs, ni fydd pawb wedi cael y canlyniadau yr oeddent yn dymuno eu cael. I unrhyw un yn y sefyllfa honno, mae cymorth a gwybodaeth ar gael gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru a Llywodraeth Cymru."