Cost of Living Support Icon

 

Cabinet y Cyngor yn ystyried cynigion cyllideb 

Bydd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried cynigion cyllidebol yr wythnos nesaf wrth i'r sefydliad geisio mantoli'r gyllideb yn dilyn y cyhoeddiad cyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

  • Dydd Gwener, 12 Mis Ionawr 2024

    Bro Morgannwg



Bydd y Cyngor yn derbyn ychydig o dan £209 miliwn ar gyfer 2024/25, ffigwr sydd gyfystyr â hanner ei incwm, gyda'r gweddill yn cynnwys y Dreth Gyngor, taliadau am wasanaethau a chyfran o ardrethi busnes o bob rhan o Gymru.


Mae'r ffigur hwn yn cynrychioli toriad 'termau real' mewn cyllid yn erbyn cefnlen o brisiau ynni, chwyddiant a chyfraddau llog oll wedi cynyddu.  

 

Mae'r galw am rai gwasanaethau hanfodol gan y Cyngor hefyd yn cynyddu'n sylweddol yn ogystal â chost darparu llawer o wasanaethau eraill.  

 

CllrBurnett

Mae hyn i gyd yn golygu bod yr Awdurdod yn wynebu diffyg sylweddol yn y gyllideb felly mae angen newidiadau i ddod â gwariant yn unol ag incwm.  

Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  "Rydym wedi gwybod ers peth amser bod y Cyngor yn wynebu her ariannol na welwyd ei thebyg o'r blaen. 

 

Rwyf wedi ceisio bod yn glir iawn gyda thrigolion ynglŷn â hynny a'n difrifoldeb wrth ysgwyddo'r cyfrifoldeb am wario arian cyhoeddus.
"Mae'n ffaith syml bod costau'n cynyddu ar gyfradd llawer uwch na’n cyllid, sy'n ei gwneud hi'n amhosibl cynnal gwasanaethau ar y lefelau presennol. 

 

"Nid oedd y cyhoeddiad cyllid gan Lywodraeth Cymru, er ei fod yn sobreiddiol, yn annisgwyl ac roedd yn unol â'n modelu ariannol. 

 

"Mae'r sefyllfa hon yn un yr ydym wedi bod yn paratoi ar ei chyfer ers tro ac yn faes lle mae gan y Cyngor hwn hanes cadarnhaol o lwyddiant.  

 

"Er bod penderfyniadau anodd ac annymunol o'n blaenau, mae cyfle hefyd i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu ein gwasanaethau a gwasanaethu ein trigolion yn well.  Mae'r ymagwedd trawsnewidiol hwn yn rhywbeth arall y mae'r sefydliad hwn wedi rhagori ynddo o'r blaen. 


"Wrth i’r gyllideb gael ei chwblhau dros y misoedd nesaf, yr hyn a fydd yn parhau’n flaenoriaeth lwyr yw cynnal gwasanaethau i'r rhai yn ein cymunedau sydd eu hangen fwyaf.  Byddwn bob amser yn sicrhau bod ein plant, ein pobl hŷn, y rhai ag anghenion ychwanegol yn derbyn gofal priodol."


Mae awgrymiadau ar sut y gellir pontio'r bwlch cyllido wedi'u cynnwys mewn adroddiad i'w adolygu gan y Cabinet.  

Maent yn cynnwys cynigion ar gyfer arbedion o £7.8 miliwn yng nghyllidebau'r Cyngor, taliadau uwch am rai gwasanaethau, cynnydd yn y Dreth Gyngor o 6.7%, law yn llaw â ffyrdd blaengar a chreadigol o gynhyrchu incwm. 

 

Yn gysylltiedig â Rhaglen Adfywio'r Cyngor a'r cais Codi’r Gwastad llwyddiannus diweddar a fydd yn creu marina yn y Barri, mae cynlluniau i rentu swyddfeydd yn Swyddfa’r Dociau gerllaw. Syniad arall yw cyflwyno mwy o gonsesiynau manwerthu bach i leoliadau ledled y Fro, tra bydd y Cyngor yn ceisio meddiannu llai o adeiladau.  

 

Bydd mwy o grwpiau chwaraeon a chymunedol yn cael y cyfle i ennill mwy o annibyniaeth drwy gymryd rheolaeth o'u cyfleusterau, trefniant sydd eisoes wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith clybiau bowlio a sefydliadau eraill.  


Ar ôl i'r Cabinet gytuno arnynt, bydd cynigion am arbedion yn cael eu cyflwyno i bwyllgorau craffu a phreswylwyr drwy ymgynghoriad cyhoeddus cyn i'r gyllideb gael ei hystyried ymhellach a'i chwblhau mewn cyfarfod o'r holl Gynghorwyr fis Mawrth. Mae'r ymgynghoriad yn cael ei lansio Ddydd Iau, 18 Ionawr a bydd yn para am bedair wythnos.