Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cymeradwyo’r gyllideb

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn buddsoddi mwy o arian yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn cynyddu cyllid ysgolion ar ôl i'w gyllideb ar gyfer 2024/25 gael ei chadarnhau neithiwr.

  • Dydd Mercher, 06 Mis Mawrth 2024

    Bro Morgannwg



Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn buddsoddi mwy o arian yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn cynyddu cyllid ysgolion ar ôl i'w gyllideb ar gyfer 2024/25 gael ei chadarnhau neithiwr.

 

Cytunwyd ar gynlluniau ariannol mewn cyfarfod o'r holl Gynghorwyr ac maent yn cynnwys cynnydd o 13% mewn cyllid ar draws y Gwasanaethau Oedolion a Phlant a chynnydd o 5% ar gyfer Addysg.

 

Bydd hyn yn helpu i ateb y galw cynyddol am wasanaethau hanfodol penodol gan boblogaeth sy'n heneiddio a nifer gynyddol o blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

 

Mae wedi'i gyflawni er gwaethaf gostyngiad 'termau real' sylweddol mewn cyllid a achoswyd yn rhannol gan brisiau ynni, chwyddiant a chyfraddau llog cynyddol.

Cllr Lis BurnettDywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Rwyf wedi ceisio bod yn glir iawn gyda thrigolion o'r cychwyn cyntaf bod y Cyngor wedi wynebu her ariannol na welwyd ei thebyg o'r blaen i gydbwyso'r gyllideb hon.

 

"Yn syml, mae costau'n codi ar gyfradd llawer cyflymach na’r cyllid, gan ei gwneud yn amhosibl cynnal gwasanaethau ar y lefelau presennol.

 

"Mae cyrraedd y pwynt hwn wedi cymryd llawer o waith caled gan swyddogion a Chynghorwyr, a hoffwn ddiolch iddynt am yr ymdrechion hynny.

 

"Pwysleisiais hefyd ar ddechrau'r broses fod diogelu aelodau ein cymuned sydd mwyaf agored i niwed yn flaenoriaeth lwyr er gwaethaf yr anawsterau a oedd yn codi.

 

"Ar ôl goresgyn llawer o rwystrau, rwyf wrth fy modd bod yr addewid hwnnw wedi'i gadw, a’n bod wedi gallu cynyddu’r arian ar gyfer Addysg a Gofal Cymdeithasol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ein preswylwyr ieuengaf a hynaf, yn ogystal â'r rhai ag anghenion ychwanegol, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

 

“Er y bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac annymunol, mae cyfle hefyd i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu ein gwasanaethau a gwasanaethu ein trigolion yn well.  Mae'r dull trawsnewidiol hwn yn faes lle mae gan y sefydliad hwn hanes llwyddiant profedig. Does gen i ddim amheuaeth y bydd hynny'n parhau."

Bydd y Cyngor yn derbyn ychydig o dan £210 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Dyma hanner ei incwm gyda'r gweddill yn dod o’r dreth gyngor, taliadau am wasanaethau a chyfran o’r ardrethi busnes o bob rhan o Gymru.

 

Ar ôl tynnu cyfraniadau’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, dim ond 25% sy’n weddill i’w wario ar bob darpariaeth arall.

 

Ar y cyfan, roedd y Cyngor yn wynebu pwysau ariannol gwerth cyfanswm o £38 miliwn ac, ar ôl cymryd camau cychwynnol, mae angen gwerth £7.7 miliwn o arbedion i ddod â gwariant yn unol ag incwm.

 

Mae’r arbedion hyn wedi’u llunio ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, ystyriaeth gan bwyllgorau craffu a gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys undebau llafur.

 

Maent yn cynnwys codi tâl am wasanaethau penodol, cynnydd o 6.7 y cant yn y dreth gyngor, llai o wariant mewn meysydd penodol a ffyrdd blaengar a chreadigol o greu incwm.

 

Bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yn sylweddol is na’r hyn sy’n cael ei gyflwyno gan lawer o Awdurdodau Lleol eraill Cymru a bydd yn golygu bod trigolion y Fro yn parhau i dalu llai na'r cyfartaledd sy'n cael ei godi yng Nghymru.