Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor yn Cefnogi Murlun Clwb Rygbi’r Barri

Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, sy'n cael ei oruchwylio gan Gyngor Bro Morgannwg, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Rygbi'r Barri a’r artistiaid lleol, Hurts so Good, i greu murlun yng Nghlwb Rygbi’r Barri.

  • Dydd Gwener, 15 Mis Mawrth 2024

    Bro Morgannwg



Unveiling the Barry RFC MuralDadorchuddiodd y clwb y murlun newydd ddydd Sadwrn diwethaf, 9 Mawrth, a ddyluniwyd gan Hurts So Good, aelodau'r Clwb Ieuenctid a'r gymuned leol.

 

Ymhlith y rhai a aeth i’r seremoni ddadorchuddio roedd Prif Weithredwr URC, Abi Tierney, sydd â chysylltiad teuluol cryf â'r ardal leol gan fod ei thad, Peter O'Sullivan, yn chwarae i'r Bombers, Dinas Powys a’r Glamorgan Wanderers.

 

Soniodd y Prif Weithredwr newydd, sydd hefyd y fenyw gyntaf i ddal y swydd, am bwysigrwydd rygbi cymunedol gan fod gan y gêm rôl mor bwysig yn hanes a threftadaeth Cymru.

 

Roedd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Lis Burnett, y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Bronwen Brooks, a Maer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Julie Aviet, hefyd yn bresennol fel cefnogwyr brwd y clwb.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett:  "Roedd hi'n fraint fawr cael gwahoddiad i'r digwyddiad ddydd Sadwrn ar ôl dilyn y rôl y mae'r clwb wedi'i chwarae yn cefnogi'r gymuned leol ac yn enwedig pobl ifanc leol dros y blynyddoedd.

 

"Roedd hi'n bleser cwrdd ag Abi a dysgu mwy am ei hymrwymiad i gefnogi clybiau rygbi llawr gwlad fel Clwb Rygbi’r Barri.

 

"Yn ogystal â thynnu sylw at y gwaith anhygoel mae'r Gwasanaeth Ieuenctid a Chlwb Rygbi y Barri yn ei wneud i ymgysylltu â'n pobl ifanc, roedd dydd Sadwrn hefyd yn dangos sut maen nhw’n meithrin chwaraewyr talentog ifanc sy'n gallu sicrhau llwyddiant rygbi rhyngwladol.

 

"Mae'r Clwb a'n Grŵp Ieuenctid yn gobeithio y gall y murlun ysbrydoli bechgyn ifanc a hefyd ferched ifanc i archwilio eu cariad at y gêm." 

Cllrs Lis Burnett and Bronwen Brooks with Abi TierneyMae'r dyluniad yn cynnwys dau chwaraewr rhyngwladol presennol Cymru, sef Mason Grady – sydd ar hyn o bryd yn chwarae dros Gymru yn y Chwe Gwlad – a Niamh Padmore, sef y fenyw gyntaf o'r Barri i chwarae i dîm cenedlaethol Cymru ar ôl chwarae am y tro cyntaf y llynedd i'r Tîm Merched dan 18 oed, gyda’r ddau ohonynt wedi chwarae i Glwb Rygbi'r Barri yn eu hieuenctid.

 

Mae'r arwr rygbi lleol, Geoff Beckingham, a enillodd 3 chap i dîm rygbi Cymru yn y 50au hefyd i'w weld yn y murlun.

 

Dechreuodd y gwaith partneriaeth rhwng y Gwasanaeth Ieuenctid a Chlwb Rygbi'r Barri ddwy flynedd yn ôl gyda grant cychwynnol o £5000 tuag at adnoddau, a alluogodd y gymuned a'r clwb i sefydlu eu grŵp darpariaeth ieuenctid eu hunain.

 

Cafwyd cyllid pellach trwy Chwaraeon Cymru a’r Gwasanaeth Ieuenctid tuag at Glwb Bechgyn a Merched Cymru, sy'n ariannu swydd Gweithiwr Ieuenctid i gynnal cyfarfodydd clwb wythnosol a meithrin sgiliau ar gyfer gwirfoddolwyr.

 

Yn dilyn y gwaith hwn, cysylltodd Hurts So Good â'r Gwasanaeth Ieuenctid i gynnig y cyfle i greu murlun i ddathlu llwyddiant y clwb ac ysbrydoliegin chwaraewyr.

 

Gyda chyllid grant gan Wasanaeth Ieuenctid y Fro ac UPVC Spraying of Wales, yr artistiaid Kyle Hill a Ceri Stokes oedd yn gwneud y gwaith.

 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid y Fro wedi ymrwymo i nifer o grwpiau a phrosiectau ieuenctid ledled y Fro bob wythnos. Gallwch ddarganfod mwy am eu gwaith ar ein gwefan a’n sianeli Cyfryngau Cymdeithasol.