Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cynnal cyfarfod i drafod ansawdd dwr

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dod â phartïon allweddol at ei gilydd i helpu i fynd i'r afael â phroblemau ansawdd dŵr ym Mae’r Tŵr Gwylio.

  • Dydd Gwener, 15 Mis Mawrth 2024

    Bro Morgannwg



Cyfarfu cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Dŵr Cymru a grwpiau nofio lleol i drafod y mater ar ôl i arwyddion gael eu gosod yn dynodi'r dosbarthiad dŵr 'gwael' a dderbyniodd y traeth y llynedd.

 

Mae cyfarfod tebyg hefyd wedi'i gynllunio yn Aberogwr ar ôl i brofion CNC roi’r un sgôr i’r dŵr yno.

 

O dan gadeiryddiaeth Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Thai’r Cyngor, gwnaeth cynrychiolwyr o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, sy'n gwneud gwaith iechyd a diogelwch ar gyfer y Cyngor, a Thîm Gwasanaethau Cymdogaeth yr Awdurdod, annerch y sawl a oedd yn bresennol.

 

Yn eu mysg roedd aelodau o Watchtower Waders, Barry Blue Tits, Clwb Achub Bywyd y Cnap (y Rhondda), Surfers Against Sewage, Achubwyr Bywyd y Rhws, Rhwster Bluelips, Island SUP a Whitmore Bay Surf Lifesaving Club.

 

Esboniwyd y sefyllfa a darparwyd gwybodaeth am gynlluniau i wella ansawdd dŵr yn y lleoliadau hyn.

 

Mae CNC yn cynnal ymchwiliadau, mewn partneriaeth â Dŵr Cymru a'r Cyngor, i ganfod achos y llygredd.

 

Gallai fod yn dod o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys tir amaethyddol, gweithgarwch trefol, carthbyllau preifat, tanciau septig neu weithfeydd trin. 

 

Unwaith y bydd y ffynhonnell wedi'i nodi, gall CNC weithio gyda'r rhai sy'n gyfrifol i fynd i'r afael â'r broblem a gwella ansawdd dŵr.

 

Dywedodd Mr Punter: "Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal ansawdd dŵr ar draethau, ond rydym am i bawb fwynhau'r lleoliadau hyn felly mae'r canlyniadau ar gyfer Bae'r Tŵr Gwylio ac Aberogwr yn siomedig iawn.

 

"Maen nhw'n golygu ein bod ni'n gyfreithiol gyfrifol am osod arwyddion yn rhoi gwybod i bobl am eu dosbarthiad 'gwael'.

 

"Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn hapus â’r sefyllfa. Mae dyfroedd ymdrochi’n chwarae rhan bwysig yn iechyd a lles pobl, yn hybu'r economi ac yn cefnogi bywyd gwyllt.

 

"Mae gan lawer o leoliadau yn y Fro ddŵr ymdrochi sydd wedi'i sgorio’n 'rhagorol' a dyma'r safon rydym eisiau ei gweld ym mhobman.

 

"Rydym wedi bod yn gweithio gyda CNC a Dŵr Cymru tuag at y nod hwnnw.  Trwy ddod â phawb at ei gilydd fel hyn, gobeithio y gallwn ddod o hyd i ffordd o wneud y gwelliannau angenrheidiol cyn gynted â phosib."

 

Watch house bay picturePan fo dŵr ymdrochi dynodedig yn cael ei ddosbarthu’n 'wael' o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, mae'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi canllaw yn cynghori pobl i beidio ag ymdrochi ar y traeth hwnnw.

 

Mae arwyddion wedi’u gosod yn cynghori yn erbyn ymdrochi ym Mae’r Tŵr Gwylio a Thraeth Aberogwr ar gyfer 2024. Fodd bynnag, mae'r traethau yn parhau i fod ar agor i bobl eu mwynhau.

 

Dywedodd Alison Woolcock, Aelod Sylfaenol Watchtower Waders: "Mae’r Waders yn gwerthfawrogi bod Cyngor y Fro, Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dangos y pwys maen nhw wedi’i roi ar wella ansawdd y dŵr ym Mae’r Tŵr Gwylio a'r traethau eraill yn y Fro.

 

"Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfarfodydd pellach i weld y cynnydd a chroesawu dyfodol lle mae gan Fae’r Tŵr Gwylio sgôr gadarnhaol fel bod yr holl gymuned yn teimlo'n ddiogel i ddefnyddio'r traethau a'r dŵr.    

 

"Er ein bod yn deall fel grŵp na all Cyngor y Fro argymell nofio ym Mae’r Tŵr Gwylio oherwydd darlleniadau gwael y flwyddyn ddiwethaf, byddwn yn parhau i nofio ond byddwn yn defnyddio apiau defnyddiol Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i’w gwneud hi mor ddiogel â phosibl. 

 

"Roeddem yn falch iawn o weld y cynrychiolwyr o gynifer o grwpiau sy'n defnyddio'r dyfroedd, gan ei fod yn dangos pa mor bwysig yw'r dŵr i ni ar gyfer ein hiechyd, ein lles a'n cymuned."

 

Bydd Pwyllgor Craffu Adfywio a’r Amgylchedd y Cyngor yn ystyried adroddiad yn manylu ar ansawdd dŵr pob traeth ymdrochi yn y Fro ar 16 Ebrill.

 

Bydd cynrychiolwyr CNC a Dŵr Cymru yn y cyfarfod hwnnw, gydag aelodau'r cyhoedd hefyd yn gallu cymryd rhan.

 

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y dosbarthiadau dŵr ar-lein.