Cost of Living Support Icon

 

Y Bont-faen yn Derbyn Adroddiad Hynod Gadarnhaol gan Arolygwyr Estyn 

Mae un o ysgolion Bro Morgannwg wedi derbyn adroddiad arolygu ardderchog wedi i Arolygwyr Estyn ymweld â'r ysgol.  

 

  • Dydd Llun, 11 Mis Mawrth 2024

    Bro Morgannwg



Gwerthuswyd Ysgol Y Bont-faen dros bum categori: Dysgu; Lles ac agweddau at ddysgu; Addysgu a phrofiadau dysgu; Gofal, cymorth ac arweiniad; ac Arweinyddiaeth a rheolaeth, gan sgorio’n uchel ym mhob un.  

 

Mae’r arolygwyr hyd yn oed wedi gwahodd yr ysgol i gyflwyno astudiaeth achos o’i gwaith o ran datblygu creadigrwydd drwy ei gwricwlwm er mwyn ei ddefnyddio ar wefan Estyn fel esiampl i eraill. 

 

Yn ôl yr adroddiad: "Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu creadigrwydd, annibyniaeth, ac uchelgais yn llwyddiannus.  Mae'r disgyblion yn barchus, yn frwdfrydig ac yn hapus.  Maent yn elwa'n fawr o ddull effeithiol yr ysgol o ddatblygu sgiliau meddwl, gan ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau, trefnu eu dysgu a chyfrannu'n effeithiol at y cwricwlwm."  

 

O dan yr adran Dysgu, mae'r adroddiad yn myn yn ei flaen: "Un o nodweddion nodedig yr ysgol yw pa mor dda y mae disgyblion o bob oed yn datblygu eu sgiliau creadigol.  Trwy'r llu o gyfleoedd a gynigir, mae disgyblion yn datblygu sgiliau creadigol cryf i gynhyrchu gwaith dychmygus.  

 

Ac yn y maes Lles ac agweddau at ddysgu, canfu’r arolygwyr: "Mae'r staff yn creu perthynas waith gynnes a meithringar gyda disgyblion.  O ganlyniad, mae pob disgybl yn teimlo'n hapus ac wedi ei werthfawrogi. Dyma un o gryfderau'r ysgol.  

 

"Mae Cyngor Digidol yr ysgol yn hyrwyddo diogelwch ar-lein trwy gynulliadau ysgol gyfan.  Mae’r Cyngor Ysgol yn dylanwadu ar ddiwylliant diogelu'r ysgol ac yn hyrwyddo'r camau sy'n cadw disgyblion yn ddiogel." 

 

Mae'r ganmoliaeth i’r Bont-faen yn parhau yn y categori profiadau Addysgu a dysgu, fel y dywed yr adroddiad: "Mae gan bob athro ddisgwyliadau uchel o'u disgyblion.  Ynghyd â staff cymorth, maent yn meithrin perthnasoedd gwaith cryf a pharchus â disgyblion.  Mae'r perthnasoedd cadarnhaol hyn yn cyfrannu at ethos pwrpasol, prysur ac ysgogol yr ysgol."  

 

Wrth werthuso Gofal, cymorth ac arweiniad, canfu arolygwyr Estyn: "Mae Ysgol Gynradd Y Bont-faen yn gymuned gynhwysol lle mae lles yn flaenoriaeth. Ynghyd â disgyblion a rhieni, mae staff yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol ar draws yr ysgol.  O ganlyniad, mae teuluoedd yn teimlo fod digon o wybodaeth ganddynt ac yn cymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol. Mae'r disgyblion yn ffynnu ac yn teimlo y gwrandewir ar eu cyfraniadau. 

 

Yn olaf, o dan y pennawd Arweinyddiaeth a rheolaeth, mae’r adroddiad yn nodi: Ynghyd â chymuned gyfan yr ysgol, mae arweinwyr wedi datblygu gweledigaeth glir ar gyfer dysgu a lles yn seiliedig ar gefnogi disgyblion i gyrraedd eu potensial llawn a dod yn ddysgwyr gydol oes gofalgar a hyderus. Mae'r pennaeth yn dangos arweinyddiaeth gref ac empathig ac yn cael cefnogaeth dda gan uwch arweinwyr i sicrhau gwelliant. 

Dwedodd y Pennaeth Mrs. Julia Adams: "Rwy'n falch iawn bod gwaith ein staff a'n disgyblion wedi cael ei gydnabod gan fwrdd arolygu Estyn.  Rwy'n arbennig o falch bod ein gwaith yn datblygu creadigrwydd drwy ein cwricwlwm wedi derbyn canmoliaeth uchel, ac edrychwn ymlaen at rannu ein hastudiaeth achos i ddylanwadu ar ysgolion ledled Cymru."

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Mae Y Bont-faen wedi derbyn adroddiad arolygu anhygoel, ac mae'r ysgol yn haeddu clod am gyflawniad mor anhygoel. 

 

"Hoffwn longyfarch y staff, disgyblion a chymuned yr ysgol am y gwaith eithriadol y maent yn ei wneud i feithrin dysgwyr ifanc – dylech chi i gyd fod yn falch iawn ohonoch eich hunain."