Llwybr troed newydd a gwell y tu allan i Ysgol Gynradd Sili
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi adeiladu llwybr troed newydd y tu allan i Ysgol Gynradd Sili i hyrwyddo Teithio Llesol.
Adeiladwyd y llwybr troed, a ariannwyd drwy Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru, dros yr Haf i wella diogelwch ac annog mwy o ddisgyblion a rhieni i gerdded, sgwtio, neu feicio i'r ysgol.
Dyfarnwyd cyllid i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru yn benodol i hyrwyddo a gwella cyfleoedd ar gyfer teithio llesol o fewn yr ardal leol.
Mewn cydweithrediad â Sustrans, elusen “cerdded, olwyno a beicio” yn y DU, cafodd dyluniadau cychwynnol y llwybr troed eu drafftio gan y Cyngor y llynedd. Yn dilyn derbyn cyllid ym mis Ionawr, digwyddodd y gwaith adeiladu dros yr haf.
Fe wnaeth disgyblion yr ysgol gymryd rhan hefyd drwy blannu dwsinau o blanhigion mewn gwely blodau newydd, gyda'r nod o wella bioamrywiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: “Fel Cyngor rydym yn anelu at hyrwyddo teithio llesol, fel cerdded a beicio, ar gyfer teithiau bob dydd.
“Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r llwybr troed newydd hwn yn annog rhieni a disgyblion i gerdded, sgwtio neu feicio i'r ysgol.
“Mae cofleidio mathau mwy egnïol o deithio nid yn unig yn rhoi hwb i iechyd a lles ond hefyd o fudd i'r amgylchedd.
“Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith ag ymrwymiad Prosiect Sero y Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
“Mae'r cydweithio rhwng y Cyngor ac Ysgol Gynradd Sili wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r llwybr troed newydd.
“Diolch i'r Timau Teithio Llesol, Parciau a Pheirianneg am eu hymdrechion ar y cyd ar y prosiect hwn.”