Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn Talu Teyrnged i'r Cydweithiwr Annwyl Shirley Curnick

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi talu teyrnged i gydweithiwr annwyl, Shirley Curnick, sydd wedi marw.

  • Dydd Gwener, 08 Mis Awst 2025

    Bro Morgannwg



Dechreuodd Shirley ei thaith gyda Chyngor Sir De Morgannwg ym 1979 gan weithio fel Cynorthwyydd Cegin yn Ysgol Gynradd Palmerston ac yn 1996 trosglwyddodd i weithio i Gyngor Bro Morgannwg fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol.

 

Shirley Curnick with her awardDros y blynyddoedd, bu Shirley yn gweithio mewn amrywiaeth o ysgolion cyn dod yn Brif Cogydd yn Ysgol Maes Dyfan yn y Barri, lle ymroddodd 21 mlynedd o wasanaeth cyn dychwelyd i le ddechreuodd y cyfan yn Ysgol Gynradd Palmerston fel Cynorthwyydd Cegin yn 2014.

 

Yn 2019, cydnabuwyd gyrfa anhygoel Shirley gan Gymdeithas Arlwyo'r Awdurdod Lleol gyda Gwobr Seren Disglair am ei hymrwymiad diflino a'i gofal am y disgyblion a fwydodd dros yrfa o mwy na 40 mlynedd.


Roedd Shirley yn ymfalchïo wrth gallu adnabod pob disgybl yn ôl enw, eu hoffterau ac anghenion dietegol, a chymerodd ran yn rheolaidd mewn gweithgareddau eraill yn yr ysgol - gan gynnwys taith i wylio'r Lion King yn Llundain.


Shirley Curnick (pictured right)Cafodd Shirley ganmoliaeth hefyd am ei gwaith yn ystod yr her genedlaethol 'Bwytwch Nhw i Drechu Nhw' gyda'r Cwmni Arlwyo Big Fresh.


Roedd yr her yn gweld timau arlwyo ysgolion o bob cwr o'r wlad yn creu detholiad o brydau yn ystod y gystadleuaeth, gan sicrhau mai llysiau oedd 'arwr' pob pryd.


Gyda 46 mlynedd trawiadol o wasanaeth yng Nghyngor Bro Morgannwg a Chwmni Arlwyo Big Fresh, roedd Shirley yn gydweithiwr annwyl a bydd colled fawr arni.


Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Cyffyrddodd Shirley Curnick â bywydau disgyblion a chydweithwyr di-ri dros gyfnod ei gyrfa. 


“Roedd ei hangerdd dros wneud gwahaniaeth yn disgleirio ym mhopeth a wnaeth, o ddarparu prydau maethlon i fwydo miloedd o blant i gefnogi mentrau bwyta'n iach cenedlaethol ac rydym yn estyn ein cydymdeimladau dwysaf i’w theulu a'i ffrindiau ar yr adeg anodd hwn.”