Cost of Living Support Icon

 

Canmoliaeth i Gynllun Pas Aur am Helpu Preswylwyr Hŷn i Gadw'n Iach

Mae Cynllun Pas Aur Cyngor Bro Morgannwg wedi cael ei gydnabod gan sefydliad chwaraeon cenedlaethol gan ei fod yn cefnogi trigolion hŷn i ddod yn fwy actif.

  • Dydd Gwener, 22 Mis Awst 2025

    Bro Morgannwg



Amlygodd Chwaraeon Cymru fod y cynllun yn arweinydd sector am gryfder ei ddull amlasiantaethol, partneriaethau strategol ac ymgysylltiad ystyrlon cymunedol sydd wedi helpu i lunio'r rhaglen.

 

Marlene Simmonds with Tom Geere from the Golden Pass Project and Tracie Randall from Emporium GymMae'r Pas Aur yn cynnig cyfle i drigolion y Fro dros 60 oed sy'n anweithgar ar hyn o bryd gael mynediad at wyth sesiwn gweithgaredd am ddim yn eu cymuned.

 

Nod y prosiect yw helpu cyfranogwyr i aros yn egnïol y tu hwnt i'r sesiynau am ddim cychwynnol, i gwrdd â phobl newydd a theimlo'n fwy hyderus.


Un o'r rhai i elwa yw Sandra Goodchap, a ymunodd â chynllun y Pas Aur trwy ei champfa lleol yn Llandow tra'n gwella o glun wedi torri. Chwaraeodd y sesiynau ran allweddol wrth gefnogi ei hadferiad.


Dywedodd Sandra: “Mae hyn yn hollol fendigedig, rwy'n gallu gwneud pob un o'r pethau roeddwn i eisiau eu gwneud eto ac mae wedi cryfhau fy nghorff.”


Mae Marlene Simmonds yn breswylydd arall sydd wedi elwa o'r cynllun: “Mae wedi fy helpu yn arw mewn gwirionedd, rwy'n teimlo'n fwy hyderus ynof fy hun ac mae dod i'r gampfa hefyd wedi fy helpu gyda fy iechyd meddwl wrth i mi fyw ar fy mhen fy hun ac yn cael trafferth dod o hyd i rywle oedd yn addas i mi.

 

“Mae fy symudedd wedi cynyddu'n aruthrol - yn enwedig yn y gampfa - gan fy mod bellach yn gallu defnyddio cryn dipyn o'r offer heb gymorth.”


Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Llesiant: “Mae'n wych gweld y Pas Aur yn gwneud cymaint o wahaniaeth ym mywydau pobl. Mae prosiectau fel hyn yn ymwneud â mwy na gweithgarwch corfforol yn unig, maent yn helpu i ailadeiladu hyder, gwella lles, a sicrhau bod trigolion fel Sandra a Marlene yn aros yn gysylltiedig ac yn annibynnol.”


I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, e-bostiwch goldenpass@valeofglamorgan.gov.uk neu ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk/goldenpass