Cyngor yn diolch i'r gymuned am gefnogaeth yn dilyn tân ysgol
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi mynegi ei ddiolchgarwch am y cynigion o gymorth yn dilyn y tân yn Ysgol Gynradd Sain Tathan.
Yn wyneb adfyd, bu enghreifftiau di-rif o sut mae'r gymuned leol a gwasanaethau o bob rhan o'r Cyngor wedi dod at ei gilydd.
Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg y Cyngor wedi helpu’r ysgol i gynllunio cefnogaeth emosiynol a seicolegol i’r holl ddisgyblion ac aelodau staff yn dilyn y tân. 
Mae hyn yn cynnwys rhoi mesurau penodol ar waith ar gyfer plant a staff a allai fod yn arbennig o agored i niwed, neu a allai fod ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd y cyngor a’r gefnogaeth hon yn parhau tra bydd yr adeilad yn cael ei wneud yn ddiogel a phan fydd pawb yn dychwelyd i safle’r ysgol yn fuan ar ôl egwyl hanner tymor.
Mae’r Big Fresh Catering Company – gyda chymorth gwirfoddolwyr – wedi bod yn darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion o Lyfrgell Sain Tathan.
Mae Castell Fonmon yn darparu mynediad am ddim i ddisgyblion yn ystod hanner tymor, mae cyn-ddisgybl o Sain Tathan wedi sefydlu tudalen GoFundMe, mae Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gynradd Sain Tathan (CRhA) yn trefnu raffl i godi arian ychwanegol, ac mae Maes Awyr Caerdydd hefyd wedi gofyn a all helpu, yn ogystal â llawer o gynigion eraill o gefnogaeth o bob rhan o'r gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi cynnig eu cefnogaeth yn dilyn y tân yn Ysgol Gynradd Sain Tathan.
“Mewn dim ond wythnos a hanner, mae'r gefnogaeth, yn ogystal â pharodrwydd pobl i helpu, wedi bod yn hynod deimladwy.
“Mae hyn yn dyst i gryfder yr ysbryd cymunedol sy’n bodoli yn y Fro, wrth i ni ddod at ein gilydd mewn amgylchiadau mor anffafriol.”
Pan symudodd yr ysgol i addysg o gartref, derbyniodd y Cyngor hefyd lawer o gynigion caredig i helpu i ddod â’r plant at ei gilydd unwaith eto.
Mae Tîm Chwaraeon y Fro wedi cynnig darpariaeth o weithgareddau allgyrsiol ychwanegol ac mae The Gathering Place yn Sain Tathan wedi cynnig cynnal ffilm am ddim a chynulliad cymdeithasol fel y gall dysgwyr weld eu ffrindiau.
Bydd Ysgol Gynradd Sain Tathan yn ailagor yr wythnos nesaf i staff ddydd Llun 3 Mawrth gyda disgyblion yn dychwelyd ddydd Iau 6 Mawrth.