Cost of Living Support Icon

 

Datganiad ar y Cyd gan Gyngor Tref y Barri a Chyngor Bro Morgannwg

Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Howard Hamilton y penwythnos diwethaf.

  • Dydd Mercher, 09 Mis Gorffenaf 2025

    Bro Morgannwg



Roedd y Cynghorydd Hamilton yn was cyhoeddus ymroddedig, ar ôl cael ei ethol i Gyngor Tref y Barri yn 2008, a gwasanaethodd fel Maer y Dref o 2009-2010. Cafodd ei ethol hefyd i Gyngor Bro Morgannwg yn 2012 gyda chyfnod fel Maer Bro Morgannwg rhwng 2014-2015.

 

Cllr H HamiltonRoedd y Cynghorydd Hamilton yn eiriolwr angerddol dros aelodau anabl y gymuned fel Hyrwyddwr Anabledd ar Gyngor Bro Morgannwg yn ogystal ag eistedd ar Bwyllgor Gwaith Cyngor y Deillion Cymru. 


Roedd ei gysylltiad hirsefydlog â Phwyllgor Rheoli YMCA y Barri hefyd yn adlewyrchu ei ymrwymiad dwfn i gefnogi pobl ifanc a meithrin mannau cymunedol cynhwysol.

Dywedodd y Cynghorydd Dennis Clarke, Maer y Barri: “Rwy'n drist o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Hamilton, cyn Faer y Barri. Mae gen i atgofion melys o weithio ochr yn ochr ag ef yng Nghanolfan Plant Gibbonsdown. Ar ran yr holl gynghorwyr a staff Cyngor Tref y Barri, rwy'n anfon ein cydymdeimlad waelod calon i'w deulu a'i ffrindiau ar yr adeg anodd hwn.”


Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:
“Roedd y Cynghorydd Howard Hamilton yn arweinydd ymroddedig a thosturiol a weithiodd yn ddiflino i wella bywydau llawer ar draws ein cymunedau. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei anwyliaid a phawb yr oedd yn ei adnabod.”

Bydd baneri y tu allan i adeiladau Cyngor Tref y Barri a Chyngor Bro Morgannwg yn hedfan ar hanner-mast heddiw yn dilyn y newyddion am farwolaeth y Cynghorydd Hamilton, ac mae trefniadau yn cael eu gwneud i'r baneri hefyd hedfan ar hanner-mast ar ddiwrnod angladd y Cynghorydd Hamilton.