Cost of Living Support Icon

 

Datgelu cynlluniau newydd i lunio dyfodol Llanilltud Fawr

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gweithio gyda Chyngor Tref Llanilltud Fawr a phobl leol i greu cynllun Creu Lleoedd newydd ar gyfer dyfodol y dref.

  • Dydd Mawrth, 22 Mis Gorffenaf 2025

    Bro Morgannwg



Mae creu lleoedd yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd i wella'r lleoedd lle rydym yn byw, gweithio ac yn treulio amser. Mae'n golygu gwrando, a defnyddio syniadau newydd i wneud trefi a chymdogaethau yn fwy deniadol, croesawgar a defnyddiol i bawb.


Llantwit Major Beach - Artist ImpressionNod y cynllun newydd hwn yw adeiladu ar y cryfderau hynny a gwneud y dref yn lle gwell fyth i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.


Mae'r cynllun yn seiliedig ar syniadau ac adborth gan drigolion, grwpiau lleol, a busnesau, gyda llawer o bobl yn cymryd rhan i rannu eu barn. Mae'n edrych ar ffyrdd o ddathlu'r hyn sy'n gwneud y dref yn unigryw, gwella mynediad a chysylltiadau, a chefnogi siopau a gwasanaethau lleol.


Mae tair thema'r cynllun sef Dathlu, Cysylltu a Ffynnu yn helpu i arwain y cynlluniau ar gyfer Llanilltud Fawr:

 

  • Mae Dathlu yn golygu gwneud y gorau o hanes, natur a diwylliant anhygoel Llanilltud Fawr
  • Mae Cysylltu yn ymwneud â gwneud yn siŵr bod lleoedd yn y dref yn hawdd i bawb eu cyrraedd a'u mwynhau
  • Nod Ffynnu yw cefnogi busnesau lleol a helpu'r gymuned i aros yn gryf, yn iach ac yn llawn bywyd ar gyfer y dyfodol

Mae yna gymysgedd o syniadau, o newidiadau bach a all ddigwydd yn gyflym, i brosiectau mwy a fydd yn cymryd mwy o amser, arian a gwaith tîm i'w datblygu a'u cyflawni. Mae'r rhain yn cynnwys syniadau ynghylch gwelliannau i fannau cyhoeddus, y traeth, cyfleusterau cymunedol ac ardal yr orsaf.


Dywedodd y Cynghorydd Dr Peter Dickson, Maer Llanilltud Fawr: “Rwyf wedi bod yn falch o weithio gyda'n staff Cyngor Tref, Swyddogion o'r tîm Cymunedau Creadigol yng Nghyngor Bro Morgannwg, a Studio Myco a luniodd yr adroddiad.


“Mae'r broses o greu lleoedd wedi gosod allan yn ffurfiol ddyheadau llawer o drigolion ein tref ynghylch sut y gallai'r dref ddatblygu yn y dyfodol. Mae manteision tebygol eu hawgrymiadau yn amlwg i'w gweld, ac mae'n galonogol bod yr adroddiad terfynol hefyd yn cynnwys 'enillion cyflym' posibl nad oes angen gwariant cyfalaf sylweddol I’w gwireddi.”


Llantwit Major Station - Artist ImpressionDywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Lleoedd Cynaliadwy: “Mae'r cynlluniau hyn yn ganlyniad gwaith tîm go iawn rhwng y Cyngor, Cyngor Tref Llanilltud Fawr, a'r gymuned leol. Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn rhannu eu syniadau ar sut i wneud Llanilltud Fawr yn lle gwell fyth i bawb.


“Mae'r cynigion yn dathlu cymeriad unigryw y dref wrth fynd i'r afael â'r blaenoriaethau sy'n bwysig i'r gymuned, ac edrychaf ymlaen at weld sut mae'r cynlluniau hyn yn datblygu yn y dyfodol.”


Bydd gan y pedair tref yn y Fro gynllun, ac ariannwyd y gwaith hwn gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi prosiectau i wella'r strydoedd mawr a chanol trefi. 


Bydd y cynllun bellach yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddenu a chefnogi buddsoddiad a chyllid yn y dyfodol ar gyfer prosiectau sy'n flaenoriaeth i drigolion a busnesau.