Dyfodol Penarth yn cymryd siâp wrth ddatgelu cynlluniau newydd ar gyfer y dref
Mae Cyngor Bro Morgannwg — mewn partneriaeth agos â Chyngor Tref Penarth a'r gymuned leol — wedi cyhoeddi cynlluniau newydd a fydd yn helpu i lunio dyfodol y dref.
Mae creu lleoedd yn ddull sy'n canolbwyntio ar bobl ac ar wella ein trefi a'n mannau cymunedol i'w gwneud yn lleoedd mwy croesawgar, bywiog a phleserus i bawb.
Gallai gynnwys ystod eang o ymdrechion - o uwchraddio seilwaith mawr i ddigwyddiadau diwylliannol a phrosiectau lleol ar raddfa fach sydd i gyd wedi'u cynllunio i feithrin ymdeimlad cryf o berthyn a chysylltiad o fewn y gymuned.
Mae'r cynlluniau hyn yn ganlyniad rhaglen helaeth o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion, busnesau lleol, a chynrychiolwyr cymunedol i helpu i lunio'r cynigion.
Trefnwyd yr adborth o'r ymgynghoriad cymunedol ym Mhenarth yn chwe phrif thema:
- Dyfodol Cynaliadwy ar gyfer Strydoedd a Mannau Agored
- Trafnidiaeth gyhoeddus a chynaliadwy
- Bywiogrwydd Economaidd ac Economi Ymwelwyr
- Rheoli Traffig
- Gwelliannau Darpariaeth Iechyd a Lles
- Cysylltedd Rhwng Canol y Dref a Glan y Môr
Cyflwynwyd amrywiaeth o syniadau prosiect i fynd i'r afael â phob thema. Mae'r syniadau hyn yn amrywio o welliannau i olygfa stryd canol y dref, gwaith i wella adnoddau sy'n tynnu sylw at hanes Penarth i fwy o gyfleoedd i fusnesau bach.
Mae'r cynlluniau'n categoreiddio syniadau prosiect yn nodau byr, canolig a thymor hir. Er y gellir rhoi rhai mentrau ar waith yn syth, mae eraill yn brosiectau mwy cymhleth a fydd yn gofyn am amser, cyllid ychwanegol, a chydweithio rhwng gwahanol bartneriaid i ddod â ffrwyth.
Dywedodd Aelod o Grŵp Weithredu Ieuenctid Penarth, a oedd yn rhan o’r waith i lunio'r cynlluniau: “Roedd yn brofiad gwirioneddol graff a ddaeth â'r gymuned at ei gilydd gyda'r nod cyffredin i wella Penarth. Roedd y digwyddiad yn hynod ddiddorol wrth i bobl o bob cefndir rannu eu barn, yn enwedig ar feysydd pwysig i bobl ifanc fel yr amgylchedd a chludiant cyhoeddus.
“Mae lleisiau pobl ifanc yn bwysig - ni yw'r genhedlaeth fydd yn etifeddu Penarth ac mae pobl ifanc wedi cael cyfle i leisio eu barn ar lunio'r dref a materion amserol allweddol. Ar y cyfan, roedd yn brofiad hyfryd a helpodd i rannu dylanwad pobl ifanc a siapio'r dref rydyn ni'n ei charu'n fawr.”
Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Tref Penarth: “Mae Cyngor Tref Penarth yn falch o fod wedi cael cyfle i gydweithio â Chyngor Bro Morgannwg a'u Tîm Cymunedau Creadigol yn ystod y gwaith o ddatblygu Cynllun Creu Lleoedd Penarth.
“Rydym yn credu mai'r cynllun yw'r cam cyntaf o fewn y Broses Creu Lleoedd, nid yr olaf, ac edrychwn ymlaen at weld sut y caiff ei ddefnyddio gan Gyngor Bro Morgannwg a rhanddeiliaid lleol eraill i ddenu cyllid ar gyfer datblygu, i wella'r dref, ac i adeiladu ar lawer o gryfderau Penarth fel Gardd Glan y Môr Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Lleoedd Cynaliadwy: “Mae'r cynlluniau hyn yn gynnyrch cydweithio gwirioneddol rhwng y Cyngor, Cyngor Tref Penarth, a'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y dref. Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o unigolion - yn enwedig pobl ifanc - yn cymryd rhan ac yn rhannu eu syniadau ar sut i wneud Penarth hyd yn oed yn well i'r gymuned.”
Bydd gan bob un o'r pedair tref yn y Fro ei chynllun ei hun a ariennir yn rhannol gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi mentrau sydd â'r nod o adfywio'r strydoedd mawr a chanol trefi.
Bydd y cynllun bellach yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddenu cyfleoedd buddsoddi a chyllido ar gyfer prosiectau trefi yn y dyfodol.