Tadau yn Darllen Bob Dydd: Rhaglen FRED yn cefnogi Tadau i adeiladu bondiau drwy lyfrau
Wrth i Sul y Tadau agosáu, mae Cyngor Bro Morgannwg yn tynnu sylw at raglen Tadau Darllen Bob Dydd (FRED) — menter sydd wedi'i chynllunio i gefnogi tadau a gofalwyr gwrywaidd i feithrin perthnasoedd cryf, parhaol â'u plant drwy ddarllen bob dydd.
Mae'r rhaglen FRED, a ddatblygwyd gan y Fatherhood Institute, yn annog tadau, ewythrau a modelau rôl gwrywaidd eraill i dreulio ychydig funudau bob dydd yn darllen gyda'u plentyn dros gyfnod o bedair wythnos.
Mae'r drefn syml ond pwerus hon yn helpu plant i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, yn cefnogi lles, ac yn rhoi gwell dechrau iddynt yn yr ysgol a bywyd.
Mae darllen gyda'n gilydd yn meithrin mwy na llythrennedd - mae'n cryfhau bondiau emosiynol ac yn creu lle ar gyfer llawenydd, chwilfrydedd a dychymyg.
Mae'r rhaglen FRED, a gyflwynir gan Dechrau'n Deg, yn cefnogi teuluoedd ledled y Fro.
Mae Anne Brock yn Hyfforddwr Dysgu Dechrau'n Deg ac mae wedi siarad am faint mae'n mwynhau cyflwyno'r rhaglen: "Mae wedi bod yn hyfryd iawn cwrdd â'r tadau a'u plant sydd wedi bod yn gysylltiedig â rhaglen FRED hyd yn hyn. Mae'n ymddangos bod pawb wedi mwynhau eu taith ddarllen, ac edrychaf ymlaen at annog mwy o dadau a phlant i gymryd rhan yn y rhaglen yn y dyfodol."
Dyma ychydig o adborth gan y teuluoedd a gymerodd ran yn y cynllun:
"Roedd yn brofiad da ac mae wedi rhoi hwb i'm hyder. Roeddem wrth ein bodd yn eistedd gyda'n gilydd yn gwneud rhaglen FRED ac rydyn ni'n dal i wneud."
"Mae fy merch wrth ei bodd yn darllen gyda fi ac yn dod â llyfrau i mi pan fyddaf yn dod adref o'r gwaith."
"Rydym yn mwynhau'r amser yn edrych ar lyfrau gyda'n gilydd."
Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae FRED yn ymwneud â mwy na llyfrau yn unig — mae'n ymwneud â chysylltiad a threfn arferol. Mae'r cynllun hwn yn dangos sut y gall yr arfer bychan dyddiol hwn helpu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda thadau a gofalwyr gwrywaidd, ac yn rhoi hwb gwirioneddol i blant o ran hyder, sgiliau iaith a pharodrwydd i'r ysgol."