Cost of Living Support Icon

 

Kier yn cael ei enwi yn gontractwr ffafriol ar gyfer datblygiad newydd Ysgol Gymraeg Iolo Morganwg 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gyhoeddi penodiad Kier fel y contractwr ar gyfer datblygiad newydd Ysgol Gymraeg Iolo Morganwg a ddisgwylir yn fawr iawn.

  • Dydd Gwener, 06 Mis Mehefin 2025

    Bro Morgannwg



Mae'r garreg filltir hon yn nodi'r cam nesaf wrth gyflwyno adeilad newydd trawsnewidiol i Ysgol Iolo Morganwg yn y Bont-faen - a fydd yn dyblu'r capasiti disgyblion presennol o 210 i 420 o leoedd ac yn cynnig darpariaeth feithrin ar gyfer hyd at 96 o blant cyfwerth ag amser llawn.


Birch-RhiannonBydd y datblygiad yn ehangu'n sylweddol ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, gan ymateb i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y Fro.

Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Rydym yn falch iawn o symud ymlaen gyda Kier fel ein partner adeiladu dewisol ar y datblygiad uchelgeisiol newydd hwn.


“Fel Cyngor, rydym am roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn, ac rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn gwella amgylcheddau dysgu ac adnoddau ar gyfer pob dysgwr yn y Fro.


“Mae'r prosiect hwn yn adlewyrchu ymrwymiad tymor hir y Cyngor i adeiladu ysgolion cynhwysol a chynaliadwy ac mae'n rhan o'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Barhaus.


“Mae'n cynrychioli buddsoddiad mawr yn addysg a dyfodol y Gymraeg yn y Fro - fel un o'r unig ardaloedd yng Nghymru sydd â thwf yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg.”

Dywedodd Ian Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Kier Construction Western & Wales: “Rydym yn falch o fod y contractwr a ffefrir ar y prosiect cyffrous hwn.


“Rydym yn hynod falch o'n presenoldeb sylweddol yn Ne Cymru sydd wedi gweld Kier yn cyflwyno nifer o brosiectau addysg sydd wedi bod yn drawsnewidiol i ddisgyblion ac athrawon.


“Mae hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo'r etifeddiaeth honno ac i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth.”


Bydd yr ysgol fodern, pwrpasol yn cynnwys mannau dysgu hyblyg, hygyrch sydd wedi'u cynllunio i gefnogi anghenion addysgol dysgwyr ac yn darparu adnodd gwerthfawr i'r gymuned lewyrchus yn y Bont-faen a'r ardaloedd cyfagos.


Bydd yn cymryd lle’r adeiladau presennol o oes Fictoria, sy'n cyflwyno heriau cynnal a chadw parhaus a photensial cyfyngedig ar gyfer ehangu.