Campfa Cryfder newydd yn agor yng Nghanolfan Hamdden y Barri
Mae Cyngor Bro Morgannwg, Parkwood Leisure a Legacy Leisure wedi dadorchuddio 'Campfa Cryfder' newydd yng Nghanolfan Hamdden y Barri.
Mynychodd Dyn Cryfaf Cymru Jacob Brook - sydd hefyd yn aelod ac yn ddefnyddiwr presennol y ganolfan hamdden - agoriad swyddogol y cyfleuster.
Gwnaethpwyd y gofod diolch i gyllid gan Parkwood Leisure, Cyngor Bro Morgannwg a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae'r uwchraddiad sylweddol hwn wedi ailbwrpasu gofod presennol i ochr Canolfan Hamdden y Barri, gan ei drawsnewid yn barth hyfforddi Cryfder a Swyddogaethol modern o'r radd flaenaf.
Bydd y gofod 600 metr sgwâr yn gwbl hygyrch i bob aelod presennol ym Mro Morgannwg fel rhan o'u haelodaeth bresennol heb unrhyw gost ychwanegol.
Bydd cwsmeriaid dros un ar bymtheg oed yn gallu defnyddio'r cyfleuster newydd, gydag opsiynau i'r rhai nad ydynt yn aelodau ddefnyddio'r lle ar sail talu wrth fynd hefyd.
Dywedodd Luke Edwards, Rheolwr y Ganolfan yng Nghanolfan Hamdden y Barri: “Mae'r tîm a minnau wedi bod yn gweithio'n galed ar y prosiect hwn dros y 18 mis diwethaf, felly rydym yn falch iawn o allu cyrraedd y pwynt lle bydd cwsmeriaid a'r gymuned yn elwa. Rydym i gyd yn gyffrous iawn am yr agoriad ac i dderbyn adborth cwsmeriaid ar y datblygiadau.”
Bydd yr ardal newydd yn gartref i ystod o offer codi newydd ac wedi'u hadnewyddu gan Life Fitness, Jordan Fitness a phartneriaid allweddol eraill — gan gynnwys 30 darn newydd o offer gwrthiant a chryfder, cyfres o feinciau, raciau sgwat a llwyfannau deadlift.
Ochr yn ochr â'r parth cryfder mae'r ardal hyfforddi swyddogaethol fodern gyda dau Dringwr Powermill newydd, Beic Awyr, SkiErg, Raffau Brwydr, blychau Plyo, Dau drac sled 15 metr a mwy.
Y 'Campfa Gryf' yw'r uwchraddiad diweddaraf i'r cyfleusterau presennol yn y Barri, yn dilyn adnewyddu'r brif gampfa yn 2023.
Gyda'r gwaith uwchraddio bellach wedi'i gwblhau, bydd hefyd nawr yn caniatáu i'r ganolfan ehangu ei rhaglen dosbarthiadau ffitrwydd, gan gynnig mwy o weithgareddau plant ac amser yn y neuadd chwaraeon.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Llesiant: “Rydym yn falch iawn o ychwanegu'r cyfleuster newydd sbon hwn at ein cynnig hamdden yn y Fro. Mae'n gaffaeliad gwych i'r gymuned leol, ac roeddem yn falch o'i gefnogi fel Cyngor.
“Mae ein partneriaeth gyda Parkwood a Legacy Leisure yn parhau i ffynnu, gyda nifer cynyddol o ddefnyddwyr a'r gwerth cymdeithasol sy'n dod gyda mwy o bobl yn defnyddio ein cyfleusterau ac yn cadw'n egnïol.”
Mae rhagor o wybodaeth am y 'Gymfa Gryf' newydd — gan gynnwys taith cerdded ddigidol o'r gofod — ar gael yma.