Cost of Living Support Icon

 

Mae’r arwr glanhau strydoedd Ricky Mountjoy yn ymddeol ar ôl 53 mlynedd o wasanaeth ymroddedig

Ar ôl dros hanner canrif o gadw'r strydoedd yn lân, mae un o hoelion wyth Cyngor Bro Morgannwg, Ricky Mountjoy, yn hongian ei ysgub am y tro olaf wrth iddo ddechrau ei ymddeoliad haeddiannol.

  • Dydd Gwener, 13 Mis Mehefin 2025

    Bro Morgannwg



Ricky MountjoyYn ddiweddar, dathlodd Ricky, a oedd yn weithiwr hiraf y Cyngor erbyn wyth mis yn unig, ei ben-blwydd yn 73 oed ac yn dod â gyrfa ryfeddol a ddechreuodd ar 19 Ebrill 1972 i ben.


Ym 1972, costiodd peint o laeth tua phum ceiniog ac roedd y Ford Cortina yn un o'r ceir mwyaf poblogaidd ar y ffordd. Yr un flwyddyn honno, cymerodd Ricky Mountjoy ei gamau cyntaf i wasanaeth cyhoeddus fel rhan o dîm glanhau strydoedd lleol - rôl y byddai'n parhau ynddi am dros bum degawd.


Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, bu Ricky yn gweithio o dan Gyngor Tref Penarth o 1974 ac yna i Gyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg tan 1996 pan ddaeth Cyngor presennol Bro Morgannwg yn awdurdod unedol.


Wrth siarad am ei amser yn y rôl, dywedodd Ricky: “Rwyf wedi mwynhau gwneud y gwaith hwn yn fawr yn yr ardal hon dros y blynyddoedd. Rydw i wedi dwlu ar weithio i'r Cyngor a byddaf yn ei golli'n aruthrol ond nawr, mae'n bryd i mi ymddeol.”


Ricky Mountjoy SweepingDrwy gydol ei flynyddoedd o wasanaeth ymroddedig, roedd Ricky yn aelod gwerthfawr iawn o'r gymuned ym Mhenarth, ac yn 2017, cyflwynwyd y Wobr Dinesydd Eithriadol i Ricky gan Gyngor Tref Penarth i gydnabod ei gyfraniad cadarnhaol i fywyd yn y dref.


Dywedodd Colin Smith, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth Cyngor Bro Morgannwg: “Mae Ricky wedi bod yn weithiwr rhagorol, enghreifftiol sy'n ymroddedig i dref Penarth.


“Hyd nes ei ymddeoliad, mae Ricky wedi cadw canolfannau siopa Cornerswell Road a Stanwell Road a'r ardaloedd cyfagos, yn lân ac yn daclus gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a'u cyflwyno i'r safon uchaf. Bydd ei holl gydweithwyr yn colli Ricky yn ddiffuant, ac rydyn ni'n dymuno'r gorau iddo am ymddeoliad haeddiannol.”


Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: “Ni ellir gorbwyso cyfraniad Ricky i gymuned Penarth, mae ei ymroddiad a'i wasanaeth wedi bod yn rhagorol, ac mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan bawb sydd wedi dod i'w adnabod wrth iddo weithio'n galed i gadw Penarth yn daclus bob dydd.”