Cyngor yn derbyn dros £530,000 i wella profiadau ymwelwyr ledled y sir
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn mwy na £530,000 mewn cyllid o gronfa Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru, sy'n galluogi gwelliannau mawr i gyfleusterau ymwelwyr mewn cyrchfannau allweddol ledled y sir.
Bydd dau gynnig prosiect llwyddiannus yn elwa o'r rownd diweddaraf hon - Prosiect Gwella Profiad Ymwelwyr Ynys y Barri sydd wedi sicrhau £233,813.62 i gefnogi ystod o gyfleusterau newydd, gan gynnwys ystafelloedd newid, cadeiriau olwyn traeth, ac arddangosfeydd ansawdd dŵr digidol.
Mae hon yn fenter drawswasanaeth a ddarperir mewn partneriaeth rhwng timau Adfywio, Gwasanaethau Cymdogaeth, a Gwasanaethau Rheoleiddio y Cyngor.
Rhoddwyd ail ddyfarniad o £300,000 i Wasanaethau Cefn Gwlad ar gyfer adnewyddu cyfleusterau toiledau ym Mharciau Gwledig Porthceri a Cosmeston, gan wella hygyrchedd i ddefnyddwyr y parciau.
Mae'r ddau brosiect yn rhan o bortffolio cynyddol o gynigion ariannu llwyddiannus a wnaed gan Gyngor Bro Morgannwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf - gan gynnwys gwelliannau i'r seilwaith ar gyfer Prosiect Porth Cosmeston, gwelliannau i'r cyfleusterau toiledau ar draethau Ogwr wrth y Môr, Southerndown a Llanilltud Fawr a seddi, lloches, llwybrau troed a pharcio gwell ar gyfer prosiect Porth i'r Arfordir Porthceri.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy: “Rydym wrth ein bodd i glywed ein bod ni wedi derbyn dros £530,000 o gyllid Pethau Pwysig i gefnogi gwelliannau yn rhai o gyrchfannau mwyaf poblogaidd y Fro.
“Mae'r prosiectau hyn yn dangos cryfder gweithio mewn partneriaeth ar draws y Cyngor, ac mae'r cais llwyddiannus diweddaraf hwn yn adeiladu ar ein hymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn seilwaith sy'n helpu i wneud y Fro yn fwy cynhwysol, croesawgar a phleserus i bawb.”