Cost of Living Support Icon

 

Gardd Gymunedol Sant Luc yn derbyn gweddnewidiad 'Rhoi ac Ennill'

Mae timau Cyngor Bro Morgannwg mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr o'r cwmni adeiladu Morgan Sindall wedi gweithio i ailwampio Gardd Gymunedol Sant Luc a'r ardal o gwmpas Pod Bwyd y Cyngor ar ddiwrnod 'Rhoi ac Ennill' ar y cyd ym Mhenarth.

  • Dydd Mawrth, 27 Mis Mai 2025

    Bro Morgannwg



Wrth uwchraddio’r ardal - fel rhan o brosiect Llechi Glân y Cyngor - gwelodd gwirfoddolwyr yn peintio ffensys ac ailblannu'r planwyr, yn ogystal â thacluso a gwaith chynnal a chadw cyffredinol o amgylch y Pod Bwyd, gyda Morgan Sindall hefyd yn rhoi planhigion a deunyddiau ar gyfer yr ardd gymunedol. 


Agorodd y Pod Bwyd ym mis Mawrth 2021 ac mae'n gweithredu allan o gynhwysydd cludo wedi'i drosi ac yn cynnig nwyddau tun, nwyddau ymolchi a chynhyrchion hylendid i drigolion.

St Luke's Community GardenDywedodd Mark Ellis, Swyddog Buddsoddi a Chynnwys Cymunedol: “Mae'r tîm wedi gweithio'n galed iawn ar brosiect y Pod Bwyd a’r Gardd Gymunedol, gyda chymorth cydweithwyr o Reolaeth Tai. 


“Yn ogystal, mae grŵp o wirfoddolwyr wedi bod yn rhedeg y Pod Bwyd ers pedair blynedd ac wedi goruchwylio cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r Pod Bwyd dros y 12 mis diwethaf er gwaethaf gorfod lleihau'r gwasanaeth i unwaith yr wythnos.”


Dywedodd Maddy Thomas, Ymgynghorydd Gwerth Cymdeithasol o Morgan Sindall: “Drwy gefnogi a chymryd rhan mewn mentrau cymunedol lleol, rydym yn sicrhau bod ein prosiectau yn elwa’r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu'n uniongyrchol, fel yr ardd gymunedol yn y Pod Bwyd ym Mhenarth.


“Roedd yn bleser gweithio ochr yn ochr â Mark, aelodau'r gymuned leol a'n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi ar y diwrnod 'Rhoi ac Ennill'!”


Mae Morgan Sindall wedi gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg ar nifer o brosiectau allweddol ledled y sir, gan gynnwys darparu ail safle Ysgol y Deri yn Cosmeston - Ysgol Llyn Derw.


Mae'r prosiect yng Ngardd Gymunedol Sant Luc a’r Pod Bwyd yn enghraifft wych arall o'r manteision cymunedol a ddarperir gan gontractwyr sy'n gweithio ar gynlluniau'r Cyngor.