Gwarchodwr plant yn y Fro yn ennill gwobr WeCare Wales
Mae gwarchodwr plant lleol sy'n gweithio'n agos gyda Chyngor Bro Morgannwg wedi ennill gwobr gofal cenedlaethol.
Cafodd Sarah Sharpe, gwarchodwr plant cofrestredig yn Meithrinfa Dydd Poppins, ei henwebu ar gyfer Gwobr WeCare Wales am ei “angerdd a'i hymroddiad” i’w gwaith.
Cyflwynwyd Sarah ar gyfer y wobr gan gyd-warchodwr plant yn y Fro Lee Walker-Metzelaar a ddywedodd fod gan Sarah “yr holl amser yn y byd” am y plant y mae'n gofalu amdanynt.
Roedd yr enwebiad yn darllen: “Yn ei rhandir yn y Barri, mae Sarah yn dysgu plant i blannu, tyfu a chynaeafu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain. Gyda'i Hachrediad Hygge, mae hi'n meithrin perthynas iach â bwyd a natur.
“Mae Sarah wedi helpu rhieni i gael cymorth hanfodol i'w plant. Mae hi wedi cyfeirio teuluoedd at Dechrau'n Deg i gael mynediad at ddosbarthiadau rhianta, ymweliadau iechyd ychwanegol a sesiynau chwarae gartref.
“Mae Sarah yn cynnig gofal plant am ddim am awr i rieni er mwyn iddyn nhw allu ymweld â'u meddyg teulu. Mae Sarah hefyd yn gweithio gyda'r awdurdod lleol i gefnogi gwarchodwyr plant newydd a hyrwyddo cyrsiau hyfforddi, ac yn darparu nosweithiau mentora am ddim i warchodwyr plant.”
Yn 2024, enillodd Sarah wobr 'Gweithiwr Chwarae'r Flwyddyn' Cymru am ei hymrwymiad at ddysgu ac enillodd Wobr Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar Cymru hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Hoffwn longyfarch Sarah Sharpe yn galonog ar y wobr haeddiannol hon.
“Mae gwobr WeCare Wales yn cydnabod y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a lleoliadau blynyddoedd cynnar yng Nghymru sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ac mae angerdd ac ymrwymiad diysgog Sarah i blant a theuluoedd ym Mro Morgannwg yn ei gosod ar wahân mewn gwirionedd.
“O fentora cyd-warchodwyr plant i gefnogi rhieni a meithrin cariad at natur ymysg plant ifanc, mae Sarah yn ymgorffori'r gorau o'r hyn y gall gofal blynyddoedd cynnar ei gynnig. Mae'r wobr hon yn ddathliad gwych o'i gwaith.”