Tîm Tai'r Cyngor yn cofleidio technoleg werdd
Mae Tîm Tai Cyngor Bro Morgannwg yn defnyddio ystod eang o dechnolegau arloesol sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd er budd i denantiaid.
Wrth i sefydliadau o amrywiaeth o sectorau nodi Wythnos Hinsawdd Cymru, mae un prosiect dan arweiniad y Cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Tai Cymru yn y categori Arloesi.
Daw hynny ar ôl i Tai ar y Cyd - sy'n dod â 24 o landlordiaid cymdeithasol ynghyd gan gynnwys y Cyngor, Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr blaenllaw'r diwydiant - ennill gwobr Rhagoriaeth Adeiladu yn yr adran Integreiddio a Gweithio Cydweithredol.
Mae'n bartneriaeth feiddgar i ddarparu cartrefi fforddiadwy, cynaliadwy ac o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran ynni, yn garbon isel, ac yn gost-effeithiol i denantiaid.
Dyluniwyd cartrefi gan ddefnyddio llyfr patrwm safonedig sy'n ymgorffori technegau adeiladu datblygedig ac yn blaenoriaethu'r defnydd o bren a dyfir yng Nghymru a'r DU — gan leihau allyriadau tra'n cefnogi cadwyni cyflenwi a chymunedau lleol.
Mae llawer o ddatblygiadau'r Cyngor bellach yn brolio amrywiaeth o nodweddion gwyrdd, gan gynnwys cyfleusterau cynaeafu dŵr glaw, waliau byw wedi'u gwneud allan o lystyfiant, systemau gwresogi ynni-effeithlon a phaneli solar.
Ac yn ddiweddar, cyflwynwyd technoleg newydd o'r enw SolShare i rai adeiladau fflatiau sy'n eiddo i'r Awdurdod Lleol.
Mae hynny'n helpu tenantiaid tai i arbed arian ar filiau ynni a lleihau eu hôl troed carbon.
Mae SolShare yn system sy'n rhannu'r ynni a gesglir o baneli solar ar un to, fel bloc o fflatiau, rhwng eiddo lluosog.
Os bydd tenantiaid hefyd yn cael eu cofrestru ar gyfer Gwarant Allforio Smart Llywodraeth y DU, sy'n golygu bod pobl yn talu am ynni gwyrdd dros ben y maent yn ei gynhyrchu, gall eu biliau ynni leihau 73 y cant ar gyfartaledd.
Mae cyflwyno'r dechnoleg hon hefyd wedi arwain at safle 30 fflat yn cynhyrchu 13.5 tunnell yn llai o garbon dros gyfnod o dri mis.
Dywedodd Sandra Perkes, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai y Sector Cyhoeddus ac Ymgysylltu â Tenantiaid: “Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i nid yn unig ofalu am ein tenantiaid, ond hefyd i amddiffyn y blaned.
“Rydym yn cofleidio'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant i ddarparu lleoedd cyfforddus a chyfoes i fyw.
“Mae nodweddion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd yn agwedd allweddol ar y gwaith hwn i helpu i fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd a ddatganwyd gennym yn 2019 a gwireddu ein Hymrwymiad Prosiect Sero i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.
“Mae ein dull blaengar yn dod â manteision gwirioneddol i bobl, gyda thenantiaid yn aml yn arbed symiau sylweddol o arian drwy ddefnyddio'r ynni glân y mae eu datblygiadau yn ei gynhyrchu.”
Cynhelir Gwobrau Tai Cymru ddydd Iau, Tachwedd 27 yng Ngwesty'r Mercure yng Nghaerdydd.