Cyngor yn gobeithio adfywio canol y dref drwy brynu hen archfarchnad
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyfnewid contractau ar brynu hen archsiop Wilko yng nghanol tref y Barri.
Dod â'r adeilad 22,323 troedfedd sgwâr yn ôl i ddefnydd yw'r rhan gyntaf o gynllun uchelgeisiol i roi bywyd newydd i ganol y dref.
Y nod yw dod o hyd i ffordd i ailddatblygu'r gofod manwerthu hwn i fod yn ofod bywiog ar gyfer busnesau bach a gweithgareddau eraill a fydd yn annog ymwelwyr i ganol y dref.
Yn y tymor byr bydd ffenestri'r adeilad yn cael eu defnyddio ar gyfer arddangosfeydd celf tymhorol. Bydd y rhain yn denu siopwyr ac yn bywiogi Heol Holton tra bydd gwaith ar y gweill i wneud y siop yn barod i'w defnyddio.
Bydd y cynllun hirdymor ar gyfer y safle yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â busnesau lleol a'r gymuned ehangach. Bydd hon yn broses hirach, ac felly yn y cyfamser o ddechrau 2026, bydd y Cyngor yn defnyddio'r adeilad i gefnogi busnesau lleol drwy gynnal gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i ddenu pobl i ganol y dref.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Ein blaenoriaeth yw dod â siopwyr yn ôl i Heol Holton. Mae rhai manwerthwyr gwych yng nghanol tref y Barri ac ar hyn o bryd, rydym yn meddwl mai'r peth gorau y gallwn ei wneud yw helpu i ddod â mwy o gwsmeriaid at eu drysau.
“Mae angen gwaith i sicrhau bod modd ailagor yr adeilad, ond cyn gynted ag y gallwn ni, byddwn yn defnyddio'r gofod i gynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd a fydd yn denu pobl i ganol y dref. Byddem wrth ein bodd i glywed syniadau trigolion ar beth allai'r rhain fod.
“Yn y tymor hir, rydym am greu rhywbeth sy'n ychwanegu gwerth go iawn i Holton Road. Mae rhai enghreifftiau gwych mewn mannau eraill yng Nghymru lle gall y cynllun cywir drawsnewid canol y dref. Rydym am weithio gyda busnesau lleol a phobl y Barri i ddylunio rhywbeth sy'n cael yr un effaith.
“Rydym yn credu yn y Barri ac yn uchelgeisiol ar gyfer y dref. Dyma'r buddsoddiad mwyaf arwyddocaol yng nghanol y dref ers blynyddoedd lawer ac mae'n bwysig ein bod yn ei gael yn iawn. Am y rheswm hwn, byddwn yn cynnwys cymaint o bobl sy'n rhannu ein cred â phosibl.
“Rydyn ni eisiau clywed pob barn, ond i fod yn glir, nid safle rydyn ni'n ei weld yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai yw hwn. Mae'r buddsoddiad hwn yn ymwneud â chefnogi stryd fawr y Barri, ei manwerthwyr, a rhoi rheswm i fwy o bobl ymweld â'r dref.
“Rydym wedi bod yn monitro'r adeilad yn agos, ers i Wilko gau, ac wedi gweithredu ar unwaith pan gododd y cyfle i'w brynu. Gwnaed hynny yn bosibl gyda chymorth o fenthyciad o £950,000 gan Lywodraeth Cymru”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: “Mae'r buddsoddiad hwn, a gefnogir drwy ein cyllid benthyciad Trawsnewid Trefi, yn dangos sut y gall partneriaeth rhwng cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru helpu i adfywio canol ein trefi a chefnogi busnesau lleol.
“Drwy ddod â'r safle amlwg hwn yn ôl i ddefnydd, rydym nid yn unig yn mynd i'r afael â siopau gwag ar y stryd fawr ond hefyd yn creu cyfleoedd i fentrau bach a'r gymuned ffynnu.
“Rydym am i ganol trefi fel y Barri fod yn llefydd bywiog, croesawgar lle mae pobl eisiau ymweld â nhw, siopa, a threulio amser - ac mae'r prosiect hwn yn nodi cam pwysig tuag at y nod hwnnw.”
Mae hwn yn rhan o strategaeth ehangach y Cyngor i gefnogi canol trefi ledled Bro Morgannwg, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn lleoedd bywiog, croesawgar a chynaliadwy i bobl fyw, gweithio ac ymweld â nhw.