Cyflwynwyd y taliadau ym mis Medi fel rhan o strategaeth ehangach parcio ceir Cyngor Bro Morgannwg. Mae adroddiad bellach yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ar 04 Rhagfyr yn argymell oedi nhw dros dro.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: “Rydym wedi gwrando yn astud ar drigolion a busnesau lleol, ac mae'n amlwg bod cyflwyno taliadau parcio yn Llwybr Clogwyn Penarth, Teras y Knap a Bron-y-Mor wedi codi pryderon y mae angen i ni ymateb iddynt.
“Rydym yn gwybod bod angen i ffioedd parcio ceir daro'r cydbwysedd cywir rhwng codi'r incwm sydd ei angen arnom i ddiogelu gwasanaethau pwysig a chefnogi'r bobl a'r busnesau sy'n dibynnu ar yr ardaloedd arfordirol hyn bob dydd. Wrth gyflwyno'r taliadau ym mis Medi, ni wnaethon ni gael y cydbwysedd hwnnw'n iawn.
“Mae pobl wedi siarad yn onest am sut mae'r amseru wedi effeithio arnyn nhw, yn enwedig yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf, sy'n gyfnod sydd eisoes yn anodd i fusnesau arfordirol. Fe wnaethon ni gyflwyno'r taliadau ar ôl misoedd o ystyriaeth, ond rydym yn cydnabod bod eu dwyn i mewn yn union wrth i olau dydd byrhau a nifer yr ymwelwyr yn gostwng yn rhoi pwysau ychwanegol ar fasnachwyr a thrigolion ar yr adeg anghywir.
“Roedd y taliadau hyn i fod i weithio ochr yn ochr â thaliadau parcio newydd ar y stryd yn Ynys y Barri a Glan Môr Penarth, a gynlluniwyd i gynyddu trosiant y mannau prysuraf. Gyda'r rheini ddim yn ei le a'r Cyngor eto heb ystyried yr ymgynghoriad diweddar ar eu cyflwyno, mae'r sefyllfa bresennol yn annog pobl i ddefnyddio parcio am ddim ar y stryd yn lle'r meysydd parcio, sy'n wrthgynhyrchiol a gallai hefyd achosi dryswch i ymwelwyr.
“Ein bwriad bob amser oedd i ymwelwyr gyfrannu'r gyfran fwyaf o incwm parcio er mwyn helpu i gynnal ein cyrchfannau arfordirol. Mae oedi'r taliadau tan y Gwanwyn yn rhoi cyfle i ni wrando ymhellach, a sicrhau bod unrhyw ddull gweithredu yn y dyfodol yn deg, wedi'i amseru'n well, ac yn gefnogol i'r gymuned.
“Rydym yn dal i feddwl mai cyflwyno taliadau yn y lleoliadau hyn yw'r penderfyniad gorau i'r Fro. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod y gallai ein gweithredu fod yn fwy hyblyg, ac rydym wedi ymrwymo i gynnal y dull hyblyg hwn wrth symud ymlaen.
“Ein ffocws nawr yw gweithio gyda thrigolion a busnesau i ddatblygu strategaeth barcio sy'n gweithio i bawb, yn cynhyrchu incwm i ddiogelu gwasanaethau hanfodol, ac yn cryfhau ein trefi arfordirol.”
Disgwylir cytundeb yn ffurfiol ar y cynnig i oedi’r taliadau ar 04 Rhagfyr ac os yw hynny'n digwydd, bydd ffioedd parcio yn y tri maes parcio yn cael eu hepgor ar unwaith. Bydd peiriannau talu ac arwyddion ym mhob un o'r meysydd parcio yn cael eu gorchuddio fel arwydd o'r newid.
Bydd adroddiad pellach ar daliadau parcio ceir, gan gynnwys ystyried cynigion pellach ar gyfer taliadau ar y stryd yn y Barri a Phenarth, yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn y Flwyddyn Newydd.