Cost of Living Support Icon

 

Ysgol Gynradd Llanfair yn Derbyn Statws Arian Ysgol Gyfeillgar i'r Lluoedd Arfog

Dyfarnwyd Statws Arian i Ysgol Gynradd Llanfair fel Ysgol Gyfeillgar i'r Lluoedd Arfog gan Cefnogi Plant Gwasanaeth mewn Addysg Cymru.

  • Dydd Gwener, 31 Mis Hydref 2025

    Bro Morgannwg



Daw'r anrhydedd ar ôl i'r ysgol ennill y wobr efydd yn 2023.

 

Canmolwyd yr ysgol am eu gwaith parhaus yn cefnogi plant y Gwasanaeth mewn addysg a'u hymgysylltiad cadarnhaol â chymuned ehangach y Lluoedd Arfog yn yr ardal.

 

AFFS Cyrmu Logo - SilverDywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yn y Fro: “Mae'n hyfryd gweld Ysgol Gynradd Llanfair yn cael ei chydnabod am eu hymrwymiad parhaus i gefnogi plant Gwasanaeth a'u teuluoedd fel hyn.


“Mae gan Gyngor Bro Morgannwg hanes hir o groesawu plant o deuluoedd Gwasanaeth i'n hysgolion ac rydym wedi adnewyddu ein Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n addewid wirfoddol y mae mudiadau yn ei gymryd i ddangos eu cefnogaeth i'r gymuned filwrol. 


“Mae ei egwyddorion yn sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.


“Mae cyflawni Statws Arian Ysgol Gyfeillgar i’r Lluoedd Arfog yn adlewyrchu ymroddiad Ysgol Gynradd Llanfair i ddeall a diwallu anghenion teuluoedd Gwasanaeth yn y Fro, ac mae eu hymdrechion yn helpu i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi.”


Er mwyn cyflawni Statws Arian rhaid i ysgolion wneud y canlynol:

 

  • Wedi cael statws Ysgol Gyfeillgar i'r Lluoedd Arfog Efydd Cymru o'r blaen
  • Trefnu i aelod o'r Lluoedd Arfog gyflwyno sesiwn gyda phlant o deuluoedd Gwasanaeth a'u cyfoedion
  • Cysylltu â Swyddog Arweiniol Cyfranogiad SSCE Cymru i archwilio opsiynau ar gyfer gwrando ar blant o deuluoedd Gwasanaeth
  • Cwblhau Pecyn Cymorth Bywydau Ffyniannus Cynghrair SciP, gan ddarparu hunanasesiad o gefnogaeth yr ysgol i blant o deuluoedd Gwasanaeth ym mhob un o'r 7 egwyddor ac ymrwymo i adolygiad blynyddol
  • Cwblhau o leiaf 60% o weithgareddau/camau gweithredu ar restr wirio yr ysgol