Disgyblion Ysgol y Deri yn Pweru Siop Newydd ym Mhenarth
Yn dilyn misoedd o gynllunio, gwaith caled a chefnogaeth gymunedol, mae Hubbub - gofod manwerthu newydd Ysgol y Deri - wedi agor ei ddrysau yn swyddogol.
Wedi'i leoli yng nghanol Penarth, mae'r siop bellach yn gwbl weithredol ac mae'n ofod hyfforddi manwerthu sydd wedi'i gynllunio i roi cyfle i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ennill profiad gwaith yn y byd go iawn a sgiliau gydol oes.
Mae Hubbub yn cael ei redeg gan fyfyrwyr Ysgol y Deri ac mae'n eu helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol ar ôl gadael yr ysgol, tra hefyd yn dyfnhau eu cysylltiad â'r gymuned leol.
Mae'r agoriad yn dilyn ton galonog o ysbryd cymunedol, wrth i wirfoddolwyr o Morgan Sindall, CS Flooring, Ian Williams Carpentry, Whiteheads Building Services, a Chyngor Bro Morgannwg gynnig eu hamser, eu hadnoddau a'u sgiliau i ddod â'r siop yn fyw.
Dywedodd Stacey Long, Arweinydd Pontio Ôl-16 yn Ysgol y Deri: “Mae'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn hollol wahanol, mae'n rhoi profiad gwaith ystyrlon i'n dysgwyr a'u helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd er mwyn symud ymlaen.
“Mae'n ymwneud ag arddangos ein dysgwyr yn eu cymuned eu hunain, eu helpu i deimlo'n gyfforddus ac wedi'u cynnwys - a gwneud yn siŵr bod eraill yn dod i'w hadnabod.”
Mae gwneuthurwyr lleol a busnesau bach yn gallu rhentu gofod silff yn Hubbub, gyda nifer o gynhyrchion a wnaed gan fyfyrwyr Ysgol y Deri hefyd ar gael i'w gwerthu.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Mae'n ysbrydoledig gweld y prosiect hwn yn dod yn fyw, gan fod siop Hubbub yn dangos sut y gall cyfleoedd ystyrlon y byd go iawn helpu pobl ifanc i ennill sgiliau a hyder amhrisiadwy wrth iddynt gamu i fyd gwaith.
“Rwy'n annog pawb yn y gymuned i ymweld, cefnogi'r siop, a gweld yr effaith drostynt eu hunain - da iawn i bawb sydd weld helpu Hubbub i fod yn gymaint o lwyddiant a chreu gofod sy'n wirioneddol rymuso ein dysgwyr.”
Am ragor o wybodaeth am siop Hubbub neu i gymryd rhan, cysylltwch â Stacey - slong@yyd.org.uk