Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 17 Mis Medi 2025
Bro Morgannwg
Cynigiodd gwirfoddolwyr o Morgan Sindall, CS Flooring, Ian Williams Carpentry, Gwasanaethau Adeiladu Whiteheads a Chyngor Bro Morgannwg eu hamser, eu hadnoddau a'u sgiliau i ddod â'r siop Hubbub newydd yn fyw.
Nod siop Hubbub yw creu gofod croesawgar a swyddogaethol lle gall disgyblion ennill profiad ymarferol mewn manwerthu, gwasanaeth cwsmeriaid, a rheoli siopau, i gyd o fewn amgylchedd cefnogol a chynhwysol.
Dywedodd Stacey Long, Arweinydd Pontio Ôl-16 yn Ysgol y Deri: “Mae wedi bod yn anhygoel gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd am achos mor ystyrlon. Mae'r haelioni a'r brwdfrydedd gan ein gwirfoddolwyr wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae'r dysgwyr eisoes yn gyffrous am yr hyn sydd i ddod.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Mae'r prosiect hwn yn enghraifft ddisglair o'r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw ein cymuned at ei gilydd. Bydd siop Hubbub yn rhoi profiad gwaith amhrisiadwy i ddysgwyr Ysgol y Deri yn y gymuned ym Mhenarth a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled wrth helpu i symud y prosiect ysbrydoledig hwn ymlaen.”
Am ragor o wybodaeth am siop Hubbub neu i gymryd rhan, cysylltwch â Stacey - slong@yyd.org.uk