System ailgylchu plastigau meddal wedi'i chyflwyno ledled y sir
The Vale of Glamorgan Council’s soft plastics recycling system is being rolled out county-wide after a successful trial in Penarth, Dinas Powys, Sully and surrounding areas.
Y llynedd, dewiswyd y Fro i dreialu'r gwasanaeth newydd hwn oherwydd ei record ailgylchu ardderchog.
Diolch i'r ffordd ymroddedig y mae trigolion wedi cofleidio ailgylchu, mae Cyngor Bro Morgannwg ymhlith yr Awdurdodau Lleol sy'n perfformio orau yn y Deyrnas Unedig (DU) yn yr ardal hon.
Yn dilyn ymateb cadarnhaol arall i'r cynllun peilot plastigau meddal, bydd y system yn cael ei hymestyn i bob rhan o'r Fro lle mae casgliadau wrth ymyl y ffordd yn digwydd o ddydd Llun, Ebrill 13.
Yn ystod y cynllun peilot, casglwyd tua 100 tunnell o wastraff plastig meddal.
Dyma ddeunydd fel bagiau a lapio a fyddai fel arall wedi cael eu rhoi mewn bagiau du ac heb eu hailgylchu.
Dywedodd Colin Smith, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth: “Mae'r Fro yn enwog fel lle sy'n gofalu am y blaned, lle mae pobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi ffyrdd newydd o ailgylchu. Dyna pam y penderfynodd WRAP Cymru y dylem fod yn un o'r ardaloedd cyntaf yng Nghymru i dreialu'r dull ailgylchu hwn.
“Unwaith eto, mae ein trigolion wedi cofleidio gwasanaeth newydd, gan wneud y cynllun peilot yn llwyddiant ysgubol.
“Mae hynny'n golygu y gellir ehangu'r system hon i gwmpasu'r Fro gyfan.
“Hoffwn ddiolch i ddinasyddion Penarth, Dinas Powys a Sili am eu hymateb gwych wrth i ni barhau i gydweithio tuag at Brosiect Sero, ein hymrwymiad i ddod yn Awdurdod Lleol carbon niwtral erbyn 2030 ac yn wlad garbon niwtral erbyn 2050.
“Rwy'n siŵr y bydd pobl sy'n byw mewn ardaloedd eraill o'r Fro yn dangos yr un cefnogaeth ac yn cynnal ein statws fel un o arweinwyr y diwydiant ym maes ailgylchu.”
Monitrodd WRAP Cymru lefelau cyfranogiad a'r effaith ar gasgliadau a throsglwyddiadau gwastraff er mwyn asesu llwyddiant y treial.
Cyflwynodd y Fro system ailgylchu wedi'i wahanu fesul ffynhonnell yn 2019, trefniant sy'n golygu bod trigolion yn didoli eu gwastraff yn ôl math o ddeunydd, yn hytrach na rhoi'r cyfan mewn un bag.
Ers hynny, mae gwasanaethau eraill sy'n ailgylchu tecstilau a chyfarpar bach hefyd wedi cael eu gweithredu.
Dylai preswylwyr eisoes fod wedi derbyn sachau glas ar gyfer gwastraff plastig meddal, gyda mwy ar gael yn llyfrgelloedd a Swyddfeydd Dinesig y Cyngor.
Mae gwybodaeth am yr eitemau y gellir eu rhoi ynddi mewn taflen ac mae wedi'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Bydd rhagor o fanylion am drefniadau ar gyfer adeiladau fflatiau ble nad oes ganddynt gasgliadau wrth ymyl y ffordd yn dilyn ar ôl cael eu cwblhau.