Cost of Living Support Icon

 

Disgyblion y Fro yn Dathlu Llwyddiannau TGAU

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi llongyfarch disgyblion ledled y sir ar eu canlyniadau TGAU, gan nodi penllanw blynyddoedd o waith caled ac ymroddiad.

  • Dydd Iau, 20 Mis Awst 2026

    Bro Morgannwg



Rhiannon Birch ColourLlwyddodd dros 27.4 y cant o'r ymgeiswyr i ennill gradd TGAU A neu A*, gyda 70.7 y cant yn ennill graddau A* i C a derbyniodd 97.2 y cant o'r dysgwyr raddau A* i G.


Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Hoffwn longyfarch pob dysgwr TGAU ledled Bro Morgannwg ar eu canlyniadau heddiw. Mae hon yn garreg filltir bwysig, ac yn gyfle i'n pobl ifanc gydnabod faint maen nhw wedi'i gyflawni.


“Y tu ôl i'r canlyniadau hyn mae llawer iawn o ymrwymiad gan ddysgwyr, ochr yn ochr â chefnogaeth eu teuluoedd, athrawon a staff yr ysgol. Rwyf am ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan wrth helpu ein pobl ifanc i gyflawni eu nodau.


“Mae heddiw yn gyfle i ddysgwyr ddathlu eu cyflawniadau ac edrych ymlaen at yr hyn a ddaw nesaf. Os ydynt yn parhau i addysg bellach, yn dechrau prentisiaeth neu hyfforddiant, neu'n mynd i fyd gwaith, dymunaf bob llwyddiant iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.”