Cost of Living Support Icon
​

 

Cyngor yn Lansio Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus yn swyddogol ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd 2021—2036.

  • Dydd Llun, 09 Mis Chwefror 2026

    Bro Morgannwg



Mae'r ymgynghoriad yn gwahodd trigolion, busnesau, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddweud eu dweud ar sut y bydd datblygiad yn y Fro yn cael ei lunio dros y 15 mlynedd nesaf. 


Civic-Offices 1Mae'r Cynllun yn cynnwys:

 

  • Strategaeth ddatblygu gyffredinol y Fro
  • Polisïau cynllunio i arwain penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol
  • Ardaloedd o dir y dylid eu diogelu
  • Dyraniadau safle penodol ar gyfer datblygu, gan gynnwys cartrefi newydd a thir cyflogaeth

Ar ôl ei fabwysiadu, bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn disodli'r Cynllun Datblygu Lleol presennol (2011—2026) ac yn darparu'r fframwaith ar gyfer penderfyniadau cynllunio hyd at 2036. 


Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus galw heibio i roi cyfle i drigolion ac ymgyngoreion eraill weld y cynlluniau a gofyn cwestiynau i swyddogion sy'n ymwneud â datblygu'r CDLl. 


Agorodd yr ymgynghoriad ar 28 Ionawr 2026 a bydd yn rhedeg tan 11 Mawrth 2026.

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddio: “Mae'r CDLl yn nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer Bro Morgannwg, sy'n canolbwyntio ar gefnogi twf cynaliadwy, diogelu ein hamgylcheddau naturiol ac adeiledig, a chreu cymunedau cryf, cysylltiedig da ar gyfer y dyfodol. Mae'n darparu fframwaith clir ar gyfer ble y dylai datblygiad ddigwydd a sut y bydd penderfyniadau cynllunio yn y dyfodol yn cael eu gwneud i wneud y Fro yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.


“Rydyn ni eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosibl am gynnwys y cynllun. Gall preswylwyr weld y dogfennau ymgynghori ar-lein a rhannu eu hadborth, neu ddod draw i un o'n digwyddiadau galw heibio i edrych ar y cynlluniau a siarad yn uniongyrchol â swyddogion cynllunio. Bydd eich adborth yn cael ei ystyried yn ofalus a bydd yn helpu i lunio cam nesaf y cynllun.”

Am ragor o wybodaeth am y RCDLl blaendal a'n digwyddiadau galw heibio ymgynghoriad sydd ar ddod, ewch i https://cymrydrhan.valeofglamorgan.gov.uk/