Cyngor i Ymgysylltu â'r Cyhoedd dros Ddyfodol Hen Siop Wilko yn Y Barri
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn dechrau rhaglen o ymgysylltu â thrigolion, busnesau lleol a rhanddeiliaid cymunedol i helpu i lunio'r defnydd o'r hen siop Wilko ar Heol Holton, y Barri yn y dyfodol.
Prynodd y Cyngor yr adeilad amlwg yng nghanol y dref fel rhan o'i ymrwymiad ehangach i adfywio'r Barri a chefnogi strydoedd fawr i’w wneud yn ffyniannus a chynaliadwy.
Er bod rhywfaint o waith gweledol cychwynnol wedi cael ei wneud o dan drwydded i wella'r ymddangosiad dros Gyfnod y Nadolig, mae gweithiau mwy helaeth yn ffurfio rhan o gam nesaf y broses.
Mae'r gwaith hanfodol hwn bellach yn cael ei wneud y tu mewn i'r adeilad er mwyn sicrhau ei fod mewn trefn gweithio da, ac tra fod hynny'n digwydd bydd y Cyngor hefyd yn gwrando ar y gymuned i helpu i benderfynu sut y gall y safle wasanaethu'r dref orau yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd gweithgareddau ymgysylltu yn cynnwys cyfleoedd i bobl rannu syniadau, tynnu sylw at anghenion lleol ac amlinellu eu dyheadau ar gyfer yr adeilad a bydd adborth a gasglwyd yn chwarae rhan allweddol wrth lywio cynlluniau ar gyfer defnyddiau yn y dyfodol.
Fodd bynnag, ni fydd hon yn sgwrs untro. Rydym am gynnal deialog barhaus gyda'r gymuned am y gofod, ac rydym yn cydnabod bod dyfodol y safle yn brosiect byw a fydd yn parhau i esblygu wrth i ni ymateb i adborth, anghenion newidiol y safle a chyfleoedd newydd yn y Barri.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae gan y safle hwn yng nghanol y Barri botensial mawr i fod yn adnodd ystyrlon i'r gymuned gyfan, ac rydym am i'w ddyfodol adlewyrchu'r gobeithion ac uchelgeisiau'r rhai fydd yn ei ddefnyddio.
“Rydyn ni eisiau siarad â phobl leol a gweithredu ar unrhyw adborth rydym yn ei dderbyn. Rydym am weithio gyda'r gymuned a chyfathrebu pob cam yn glir yn y daith hon i adfywio hen adeilad Wilko a chanol ehangach y dref yn y Barri.
Bydd gan breswylwyr tan 27 Mawrth 2026 i gyfrannu eu syniadau a gallant wneud hynny mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys tudalen Cymryd Rhan y Fro a thrwy sesiynau wyneb yn wyneb yn Llyfrgell y Barri ar 13 Mawrth 2026 gyda dyddiadau ychwanegol i'w cyhoeddi cyn bo hir.
Yn y cyfamser, mae'r Cyngor yn parhau i wneud defnydd dros dro cadarnhaol o'r adeilad, gydag arddangosfeydd gwaith celf wedi'u diweddaru yn ogystal â gwybodaeth am sut y gall aelodau'r cyhoedd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sydd ar ddod.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Ailddatblygu Uned Manwerthu Heol Holton | Cymryd Rhan y Fro