Gŵyl Gymreig i Ddathlu'r Gymraeg a Diwylliant yn y Bont-faen
Bydd dathliad bywiog o'r iaith a diwylliant Cymraeg yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref y Bont-faen yn ddiweddarach y mis hwn.
Cynhelir Gŵyl Gymreig ddydd Iau 26 Chwefror 2026 o 12yp tan 4yp, gan ddod â theuluoedd, busnesau lleol a sefydliadau cymunedol ynghyd ar gyfer prynhawn o gerddoriaeth, dysgu a dathlu.
Mae'r digwyddiad wedi cael ei gydlynu drwy'r rhaglen manteision cymunedol sy'n gysylltiedig ag adeiladu adeilad newydd Ysgol Iolo Morganwg yn y Bont-faen.
Ei nod yw hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn y Fro Gorllewinol, dathlu diwylliant Cymru, a chryfhau cysylltiadau â busnesau lleol yn y Bont-faen.
Wedi'i gynllunio i greu awyrgylch bywiog yn arddull marchnadoedd, bydd y digwyddiad yn cynnwys stondinau gan fusnesau lleol y Bont-faen a chynrychiolwyr o farchnad ffermwyr boblogaidd y dref.
Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau amrywiaeth eang o nwyddau a gynhyrchir yn lleol, pasteiod a theisennau, ffrwythau a llysiau, siders crefft, cacennau, ategolion ysgol, anrhegion, detholiad o gawsiau a llyfrau Cymraeg.
Bydd y rhaglen ar gyfer y diwrnod yn cynnwys:
- Perfformiadau gan dri chôr ysgol lleol
- Perfformiad cerddorol arbennig gan Bethany Powell o Y Llais Cymru
- Sesiwn grŵp Ti a Fi
- Sesiwn Amser Stori ar gyfer plant bach a rhieni
- Gweithgareddau celf a chrefft i blant
- Cwis bwyd Cymreig gan Loving Welsh Food — gwobr taith bwyd i'r enillydd
- Gwybodaeth dysgu oedolion, gan gynnwys cyfleoedd i ddysgu Cymraeg
- Sesiwn holi ac ateb yn archwilio manteision addysg cyfrwng Cymraeg
- Gwybodaeth am gyfleoedd gyrfa Gymraeg y GIG
- Presenoldeb gan Kier Construction, sy'n arwain datblygiad yr ysgol newydd ar hyn o bryd
- Raffl am ddim i ennill hamper o nwyddau a chynnyrch o'r ŵyl
Mae'r deunydd hyrwyddo ar gyfer y digwyddiad wedi'i ddylunio'n arbennig gan ddisgybl o Ysgol Iolo Morganwg, gan dynnu sylw at rôl ganolog yr ysgol yn ddathliadau'r diwrnod.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Mae datblygiad Ysgol Gymraeg newydd Iolo Morganwg yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y Fro Gorllewinol ac mae’r Gŵyl Gymreig yn gyfle gwych i ddathlu ein hiaith a'n diwylliant, tra hefyd yn arddangos y manteision niferus o ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'n plant.
“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda busnesau lleol a phartneriaid cymunedol i greu digwyddiad sy'n adlewyrchu bywiogrwydd y Bont-faen a chryfder ein hunaniaeth Gymreig -yn enwedig yn y Fro Gorllewinol. Byddwn i bawb yn dod draw, cymryd rhan a bod yn rhan o'r dathliadau.”