Cost of Living Support Icon

 

Anrhydedd MBE i Bennaeth Gwasanaethau Oedolion y Fro

Dyfarnwyd MBE i Jason Bennett, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Cyngor Bro Morgannwg am ei wasanaethau i Ofal Cymdeithasol fel rhan o Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2026.

  • Dydd Iau, 08 Mis Ionawr 2026

    Bro Morgannwg



Ar ôl dysgu am ei wobr, dywedodd Jason: “Mae’n anrhydedd llwyr i gael fy enwebu am Anrhydedd Blwyddyn Newydd ac i fod yn derbyn MBE.

 

“Mae degau o filoedd o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru ac rwy'n gobeithio bod y wobr yn cael ei hystyried nid fel cyflawniad personol ond fel un sy'n cydnabod y gwerth a'r cyfraniad y mae gofal cymdeithasol yn ei wneud yn ein cymdeithas a gweithwyr ymroddedig sy'n mynd uwchlaw a thu hwnt bob dydd.”

 

Civic Offices in BarryYchwanegodd: “Mae fy ngyrfa wedi bod yn un o gyfleoedd anhygoel a dwi wedi cael y fraint o gwrdd â phobl ysbrydoledig ar bob cam o fy nhaith. Fy mhrofiad cyntaf oedd fel arddegwr pan ofynnodd fy chwaer, person ysbrydoledig yn ei hawl ei hun i mi ‘helpu am ychydig ddyddiau’ mewn cynllun chwarae haf gydag elusen Barnardo’s ar gyfer plant ag anableddau dysgu. Daeth yr ychydig ddyddiau yn bedwar wythnos, ac yna pedair blynedd ac roedd yn ddechrau gyrfa gydol oes mewn gofal cymdeithasol.

 

“Yn 18 oed dechreuais weithio ym maes Llywodraeth Leol, penderfyniad sydd wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi a byddaf bob amser yn ddiolchgar i'r bobl a anogodd, perswadiodd ac yn achlysurol yn rhoi nwyth angenrheidiol i mi ddatblygu fy ngyrfa.


“Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi rhoi cyfle arall i mi fel arweinydd ADSS Cymru ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yng Nghymru, rôl arall nad oeddwn wedi dychmygu ei gwneud. Fodd bynnag, dwi wedi mwynhau'r rôl a gobeithio fy mod wedi cael effaith gadarnhaol yn ystod y cyfnod hwn, ac wedi llwyddo i hyrwyddo Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r gwaith anhygoel sy'n digwydd ar draws y sector.


“Os yw cael yr Anrhydedd yn annog pobl eraill i ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol yna byddaf yn falch iawn o fod wedi ei derbyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: “Hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau waelod calon i Jason ar yr anrhydedd haeddiannol hon. Mae'r wobr hon yn brawf o'i ymrwymiad gydol oes a diysgog i wella gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn y Fro a thu hwnt.


“Diolch i chi Jason am bopeth rydych chi'n ei wneud i gefnogi ein trigolion a'r sector gofal cymdeithasol ehangach yng Nghymru.”