Parc Sglefrio Newydd yn Agor yn Swyddogol yn y Bont-Faen
"Mae'r cyfleuster hwn yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd i lunio dyfodol eu tref."

Croesawodd Cyngor Bro Morgannwg, mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Bont-faen a Wheelscape, drigolion, teuluoedd a phobl ifanc i ddathlu agoriad swyddogol Parc Sglefrio newydd Bear Field.
Roedd y digwyddiad lansio, a drefnwyd gan Wheelscape, yn cynnwys cerddoriaeth, gwobrau a sesiynau sglefrio agored, gyda sglefrwyr a sgwterwyr lleol yn gwneud defnydd llawn o'r cyfleuster newydd ac yn arddangos eu sgiliau.
Mae'r parc sglefrio yn un o'r prosiectau cyntaf fydd yn deillio o Gynllun Creu Lleoedd y Bont-faen. Drwy ymgysylltu â'r gymuned, nodwyd Bearfield fel lleoliad allweddol lle gallai cyfleusterau gwell fod o fudd i'r dref, yn enwedig pobl ifanc.
Cafodd y prosiect ei lunio gan bobl ifanc leol, gan gynnwys Bruno Sochovski, y gwnaeth ei angerdd am sglefrfyrddio a'i ymrwymiad i wella cyfleusterau yn y Bont-faen helpu i yrru'r cynllun yn ei flaen. Gweithiodd Bruno'n agos gyda thîm Cymunedau Creadigol y Cyngor, gan gasglu adborth gan gyd-fyfyrwyr a sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei chynrychioli drwy gydol y broses.

Cyfrannodd disgyblion o Ysgol Gyfun y Bont-faen, Ysgol Iolo Morgannwg ac Ysgol Gynradd y Bont-faen at y dyluniad hefyd trwy gyfres o weithdai. Helpodd eu hadborth Wheelscape i ddatblygu cyfleuster y gall pobl o bob oed a gallu ei fwynhau.
Ariannwyd y parc sglefrio drwy gyfraniadau datblygwyr Adran 106 o ddatblygiadau tai cyfagos, ochr yn ochr â chymorth gan Chwaraeon Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Fannau Cynaliadwy: “Mae'r cyfleuster hwn yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd i lunio dyfodol eu tref.
“Mae pobl ifanc wedi chwarae rhan ganolog yn y prosiect hwn o'r cychwyn cyntaf, gan helpu i greu gofod a fydd yn cael ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod. Mae'r parc sglefrio yn ychwanegiad pwysig i Bearfield ac yn un o nifer o brosiectau creu lleoedd cyffrous a fydd yn cael eu cyflwyno yn y Bont-faen yn y blynyddoedd i ddod.”
Mae agor Parc Sglefrio Bearfield yn garreg filltir arall wrth gyflawni Cynllun Creu Lleoedd y Bont-faen ac mae'n cefnogi uchelgeisiau ehangach i wella Bearfield, gan greu mwy o gyfleoedd i drigolion ac ymwelwyr wrth annog ffyrdd egnïol o fyw.