Lansio Tocynnau Bws Digidol ar draws Rhwydwaith Cludiant Ysgol y Fro ym mis Medi
Mae rhieni a gofalwyr yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer system tocynnau bws digidol newydd BusBuddie cyn ei chyflwyno ar wasanaethau cludiant ysgol uwchradd ledled Bro Morgannwg o fis Medi 2026.
Bydd y system newydd yn disodli tocynnau bws printiedig gyda thocyn digidol ar gael drwy'r ap BusBuddie. Mae pob tocyn yn cynnwys cod QR unigryw y mae disgyblion yn ei sganio wrth fynd ar eu gwasanaeth cludiant ysgol.
Mae llythyrau wedi cael eu hanfon at deuluoedd cymwys yn esbonio sut i gofrestru a chael mynediad at y system newydd. Gofynnir i rieni a gofalwyr gofrestru erbyn 24 Gorffennaf 2026 i sicrhau y gellir dyrannu tocynnau cyn dechrau'r flwyddyn academaidd newydd.
Bydd cyflwyno BusBuddie yn helpu i wella diogelwch, yn darparu gwell gwybodaeth am sut mae cludiant ysgol yn cael ei ddefnyddio, yn caniatáu i faterion gael eu datrys yn gyflymach, ei gwneud yn haws i gyfleu'r wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth a lleihau'r risg y bydd pasys yn cael ei golli neu ei ddifrodi.
Rhaid i rieni a gofalwyr lawrlwytho'r ap BusBuddie yn gyntaf a chreu cyfrif cyn cwblhau cofrestriad eu plentyn. Mae canllawiau llawn ar gael i gefnogi teuluoedd drwy'r broses.
Mae'r Cyngor wedi pwysleisio y bydd cymorth ar gael i deuluoedd nad oes gan eu plant fynediad at ddyfais symudol. Gellir gwneud trefniadau amgen drwy gysylltu â'r Tîm Cludiant Ysgol.
Yn bwysig, bydd disgyblion yn dal i allu teithio os oes problemau dros dro gyda ffôn, batri neu ap. Gall rhieni gyrchu tocynnau dros dro trwy'r ap neu argraffu copi gartref, tra gall ysgolion hefyd gyhoeddi tocynnau dros dro pan fo angen.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: “Mae BusBuddie yn ffordd fodern a chyfleus o reoli cludiant ysgol sy'n ein helpu i wella diogelwch a chyfathrebu â theuluoedd. Byddem yn annog pob rhiant a gofalwr sydd wedi derbyn llythyr i lawrlwytho'r ap a chwblhau cofrestriad cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer mis Medi.”
Anogir rhieni sydd wedi derbyn llythyr ond sydd heb gofrestru eto i wneud hynny cyn y dyddiad cau ar 24 Gorffennaf 2026.
I gael cymorth, gall teuluoedd gysylltu â'r Tîm Cludiant Ysgol ar 02920 673147 neu drwy e-bostio schooltransport@valeofglamorgan.gov.uk