Cyngor Bro Morgannwg yn Cyflawni Achrediad Rhuban Gwyn
Dyfarnwyd Achrediad Rhuban Gwyn i Gyngor Bro Morgannwg, gan gydnabod ei ymrwymiad i atal trais yn erbyn menywod a merched a hyrwyddo diwylliant lle gall pawb fyw'n rhydd rhag camdriniaeth, aflonyddu a thrais.
Mae'r achrediad yn cydnabod ymrwymiad y Cyngor ar draws y sefydliad i herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol, cefnogi gweithwyr i ddod yn gynghreiriaid gweithredol, ac ymgorffori egwyddorion o barch a chydraddoldeb ar draws ei wasanaethau a'i weithleoedd.
Dyfernir Achrediad Rhuban Gwyn i sefydliadau sy'n dangos ymrwymiad hirdymor i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched trwy ymgysylltu â staff, gweithredu cynlluniau ystyrlon a chreu newid diwylliannol parhaol.
Y Rhuban Gwyn yw'r symbol a gydnabyddir yn fyd-eang i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod a merched. Ers ei sefydlu 34 mlynedd yn ôl, mae'r Rhuban Gwyn wedi dod yn symbol pwysig yn y frwydr i roi terfyn ar drais ar sail rhyw - ac mae'n cynrychioli dynion sy'n cymryd cyfrifoldeb i herio'r mater hwn a bod yn gynghreiriaid, bob dydd, i atal trais yn erbyn menywod a merched cyn iddo ddechrau.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein hailachredu gan White Ribbon UK. Mae'n garreg filltir bwysig ac mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i greu Bro mwy diogel, mwy parchus a mwy cyfartal i bawb.
“Nid oes lle i drais yn erbyn menywod a merched yn ein cymdeithas, ac mae dynion a bechgyn yn chwarae rhan allweddol wrth herio'r agweddau a'r stereoteipiau sy'n galluogi trais i ffynnu. Nid diwedd ein taith yw'r achrediad hwn. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'n cymunedau a'n partneriaid i adeiladu diwylliant lle mae parch, cydraddoldeb a diogelwch wrth wraidd popeth a wnawn.”
Mae'r Cyngor wedi gweithio i fodloni'r safonau trylwyr sy'n ofynnol ar gyfer achredu, gan ddangos arweinyddiaeth, ymgysylltu â staff a dull strategol o atal trais yn erbyn menywod a merched yn lleol.
Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth, cefnogi Llysgenhadon a Hyrwyddwyr y Rhuban Gwyn, hyrwyddo perthnasoedd iach a sicrhau bod y sefydliad yn parhau i ddatblygu polisïau ac arferion sy'n meithrin cymunedau diogel a chynhwysol.
Drwy ennill achrediad, mae Cyngor Bro Morgannwg yn ymuno â rhwydwaith cynyddol o sefydliadau ledled y DU sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth parhaol drwy atal trais yn erbyn menywod a merched ac annog pawb i herio ymddygiadau niweidiol ble bynnag y maent yn digwydd.