Cost of Living Support Icon

 

Canmoliaeth i Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg gan Arolygwyr Estyn

Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi cael canmoliaeth gan Estyn am ei chymuned ofalgar a'i chwricwlwm cyfoethog yn dilyn arolygiad diweddar.

  • Dydd Mawrth, 07 Mis Gorffenaf 2026

    Bro Morgannwg



Canfu'r arolygwyr fod yr ysgol yn y Barri yn darparu ystod eang o brofiadau dysgu gwerthfawr, gyda disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu ac yn ymfalchïo yn eu hunaniaeth Gymreig. 


Nodwyd bod datblygu sgiliau siarad a gwrando disgyblion yn y Gymraeg yn gryfder allweddol, gan helpu dysgwyr i gyfathrebu'n hyderus a chefnogi eu cynnydd ar draws y cwricwlwm. Canmolodd yr arolygwyr hefyd ymagwedd gynhwysol yr ysgol, yn enwedig ei chefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, a chydnabod ei hymrwymiad i ddysgu proffesiynol a gwelliant parhaus.


Nododd yr arolygiad sawl enghraifft o arfer effeithiol, gan gynnwys gwaith yr ysgol i gyfoethogi sgiliau Cymraeg disgyblion a'i defnydd o brosiectau ymholi athrawon i wella addysgu a dysgu, ac o ganlyniad, mae Estyn wedi gwahodd yr ysgol i'w rhannu fel astudiaethau achos cenedlaethol.


Ysgol Gymraeg Bro MorgannwgAmlygodd yr adroddiad hefyd strategaeth gwrth-hiliaeth yr ysgol i ddatblygu darpariaeth cwricwlaidd: “Mae'r cwricwlwm yn dysgu disgyblion yn effeithiol am hanes a phrofiadau pobl o gefndiroedd Lleiafrifoedd Ethnig. Mae grŵp disgyblion lleiafrifoedd ethnig wedi cael dylanwad buddiol ar arweinyddiaeth a darpariaeth gwricwlaidd drwy godi ymwybyddiaeth staff o brofiadau bywyd go iawn disgyblion. 


“Mae'r grŵp ffocws hwn wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr at ddatblygu polisi gwrth-hiliaeth yr ysgol. Mae sesiynau datblygu proffesiynol a phrosiectau ymchwil i staff hefyd wedi rhoi cyfleoedd cadarn i staff ddyfnhau eu dealltwriaeth o wrthhiliaeth ac addasu'r ddarpariaeth cwricwlaidd o ganlyniad.”


Ychwanegodd arolygwyr: “Mae'r cwricwlwm yn cefnogi datblygiad creadigol a diwylliannol disgyblion yn bwrpasol. Gwneir hyn drwy sesiynau o fewn y celfyddydau perfformio a mynegiannol a thrwy gyfleoedd allgyrsiol gwerthfawr, megis aelodaeth o gorau, cystadlu mewn Eisteddfodau a pherfformio mewn cyngherddau a sioeau ysgol. Mae darpariaeth allgyrsiol eang yr ysgol yn gryfder nodedig.”


Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr Robert Evans: “Rydym wrth ein bodd bod yr arolygiad yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff, disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu'r amgylchedd croesawgar, gofalgar a chynhwysol y mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn ymdrechu i'w greu bob dydd, lle mae pob dysgwr yn cael ei annog i gyflawni ei lawn botensial. 


“Rydym yn arbennig o falch bod Estyn wedi cydnabod cryfder ein darpariaeth Gymraeg a'r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i'n disgyblion.”


Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Mae hwn yn adroddiad arolygu cadarnhaol iawn sy'n adlewyrchu ymroddiad arweinyddiaeth, staff, llywodraethwyr a disgyblion yr ysgol. Mae Estyn wedi cydnabod ethos cynhwysol yr ysgol, y profiadau dysgu o ansawdd uchel y mae'n eu darparu a'i hymrwymiad i ddatblygu sgiliau Cymraeg disgyblion. Llongyfarchiadau i bawb ar y cyflawniad hwn ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi'r ysgol wrth iddynt adeiladu ar y cryfderau niferus hyn.”