Cyngor yn nodi eu huchelgeisiau am y 12 mis nesaf
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi nodi ei flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf — gyda gwelliannau ysgolion, ffyrdd, mannau gwyrdd a chanol tref ar frig yr agenda.
Bydd mwy o adeiladu tai cyngor hefyd, a mwy o adnoddau i gefnogi'r rhai sy'n agored i niwed, mynd i'r afael â thlodi a sbarduno twf economaidd.
Mae'r uchelgeisiau hyn wedi'u cynnwys yn y Datganiad Blynyddol a ystyriwyd gan Gabinet y Cyngor yr wythnos diwethaf.
Mae hynny'n dod â chynlluniau unigol ynghyd gan bum cyfarwyddiaeth — Gwasanaethau Cymdeithasol, Dysgu a Sgiliau, Amgylchedd a Thai, Lle ac Adnoddau.
Mae hefyd wedi cael ei arwain gan adborth preswylwyr a Bro 2030, cynllun pum mlynedd y Cyngor.
Mae Bro 2030 yn cynnwys pum amcan llesiant i:
- Creu llefydd gwych i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.
- Parchu a dathlu'r amgylchedd.
- Rhoi dechrau da mewn bywyd i bawb.
- Cefnogi ac amddiffyn y rhai sydd eu hangen ni
- Bod y Cyngor gorau y gallwn fod.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae trigolion wedi dweud wrthym beth sy'n bwysig iddyn nhw ac rydym wedi gwrando yn astud ar yr adborth hwnnw.
“Mae wedi helpu i osod cyfeiriad y Cyngor yn y dyfodol a nodi'r meysydd y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt fwyaf. Rydym am fod yn glir ac yn atebol am hyn.
“Mae'r Datganiad Blynyddol yn adlewyrchu ein huchelgeisiau ac yn nodi'r hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni dros y 12 mis nesaf.
“Mae hyn yn cynnwys gwell cyfleusterau ysgol, perfformiad disgyblion a chyfleoedd i bobl ifanc.
“Rydym am wneud ein trefi a'n pentrefi yn lanach, parhau â'n perfformiad ailgylchu rhagorol, llenwi hyd yn oed mwy o dyllau ffyrdd a buddsoddi mewn parciau a chyfleusterau hamdden.
“Bydd ein rhaglen adeiladu tai yn rhoi mwy o bobl lefydd cyfforddus, modern i fyw. Byddwn hefyd yn cynyddu'r cymorth sydd ar gael i bobl fregus a'r ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi.
“Rydym yn bwriadu gwella cysylltiadau trafnidiaeth, yn enwedig yn y Fro wledig, a sbarduno twf economaidd drwy greu mwy o gyfleoedd i fusnesau.”
Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn cynnwys 18 o ymrwymiadau ynghylch yr hyn fydd yn cael ei gyflawni yn y flwyddyn nesaf:
- Cwblhau yr adeiladau ysgol newydd sbon yn Ysgol Llyn Derw a St Richard Gwyn, gwneud cynnydd pellach yn Ysgol Iolo Morgannwg a dechrau ar y gwaith ar Ysgol Gynradd y Sili.
- Gwella presenoldeb ysgol a chefnogaeth i'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bob disgybl.
- Gweithio ar y cyd i gefnogi ysgolion i gyflawni cyllidebau cytbwys.
- Buddsoddi mewn gwasanaethau ieuenctid drwy ehangu gwasanaethau rheng flaen ar draws y sir gyfan, cynyddu'r ffocws ar gymorth ôl-16, datblygu pentref ieuenctid ym Mhencoedtre, mwy o gyfleoedd awyr agored a llwybrau addysg amgen i gefnogi mwy o bobl ifanc a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.
- Cyflwyno gwasanaeth glanhau strydoedd newydd ar draws y sir sy'n fwy ymatebol i drigolion ac sy'n arwain at amgylcheddau lleol glanach a chanol trefi.
- Lleihau allyriadau carbon yn ein cadwyni cyflenwi drwy ddefnyddio data i wneud penderfyniadau prynu mwy cyfeillgar i'r hinsawdd.
- Ehangu y gwasanaeth ailgylchu plastigau meddal wythnosol i holl drigolion y Fro yn dilyn treial llwyddiannus y llynedd.
- Parhau â'r rhaglen adeiladu tai cyngor, cwblhau'r cynllun tai dros dro yn Nhŷ Cadoxton a llety pobl hŷn yn y Bont-faen, tra'n dechrau ar waith ar fwy o dai teuluol yn Heol Hayeswood yn y Barri a llety pobl hŷn ym Mhenarth.
- Cyflwyno'r Cynllun Datblygu Lleol i Lywodraeth Cymru sy'n nodi fframwaith ar gyfer twf cynaliadwy.
- Cyflawni gwelliannau i edrychiad a theimlad pob un o'r pedair tref drwy gyllid Trawsnewid Trefi a chwblhau ein rhaglen o adnewyddu toiledau cyhoeddus trwy wella cyfleusterau yn Albert Road, Penarth.
- Buddsoddi mewn parciau, parciau gwledig a chyrchfannau ar draws y Fro, gan gynnwys pad sblash a pharc sglefrio wedi'i adnewyddu ym Mhencoedtre yn y Barri, gwelliannau mannau agored yn Palmerston a Heol Bendricks, adnewyddu ac ymestyn ardal chwarae Cog Road yn y Sili a gwelliannau ym Mharc Seel yn Ninas Powys.
- Trosi Swyddfa Dociau’r Barri yn ofod busnes a dechrau datblygu'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr a'r Mole a fydd yn darparu cyfleusterau hamdden gwell a mwy o dai, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy, yng Nglannau y Barri.
- Buddsoddi mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn y Fro wledig sy'n gwneud mynediad at wasanaethau a gwaith yn fwy cyfleus.
- Ymestyn ein gwaith partneriaeth i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â thlodi, gan weithio gyda'r rhai sydd fwyaf mewn angen.
- Cefnogi 50 y cant yn fwy o bobl i fyw'n annibynnol drwy ehangu ein gwasanaethau ailalluogi a ffyrdd eraill o ofalu am bobl.
- Ei gwneud hi'n haws cael mynediad at wasanaethau cyngor, cymorth a chyflogaeth drwy wella sut rydym yn ymuno â'n gwasanaethau a gwasanaethau ein partneriaid a gwneud gwelliannau pellach i hygyrchedd gwybodaeth ar wefan y Cyngor.
- Cyflwyno strategaeth gyfathrebu newydd sy'n cynyddu cyfleoedd i drigolion gymryd rhan, rhannu barn a siapio ein gwaith.
- Gwneud ein gwasanaethau yn fwy hygyrch, ymatebol, ac yn ariannol gynaliadwy drwy ein rhaglen drawsnewid, Aillunio.
Bydd adroddiadau cynnydd rheolaidd ar y gwaith hwn gyda diweddariadau ar gael ar wefan y Cyngor a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol.