Cost of Living Support Icon

 

Cyn Bennaeth Ysgol Y Deri i Dderbyn MBE 

Mae cyn Bennaeth Ysgol Y Deri Chris Britten wedi derbyn MBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Brenin i gydnabod ei wasanaethau rhagorol i addysg. 

  • Dydd Llun, 15 Mis Mehefin 2026

    Bro Morgannwg



Ymddeolodd Mr Britten yn ddiweddar ar ôl cysegru ei yrfa i wella canlyniadau addysgol i blant a phobl ifanc ym Mro Morgannwg a ledled Cymru. 


Chris BrittenYn ystod gyrfa 40 mlynedd, bu'n gweithio ar bob lefel ac ym mhob sector o'r system addysg a bu rolau arweinyddiaeth allweddol mewn ystod o feysydd pwnc gan gynnwys mathemateg, TGCh a cherddoriaeth. 


Ar ôl symud i weithio ym maes gwella ysgolion yn 1999, chwaraeodd ran sylweddol wrth godi safonau, gan fwynhau llwyddiant eithriadol, yn enwedig yn y defnydd o dechnoleg ddigidol. 


Cafodd arbenigedd Mr Britten ei gydnabod yn genedlaethol pan ymunodd â Llywodraeth Cymru yn 2008 fel cynghorydd proffesiynol, gan helpu i gyflwyno a gweithredu'r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ochr yn ochr ag arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw ym maes addysg. 


Bu'n gadeirio'r Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol hefyd, gan roi cyngor i Weinidogion ar ddatblygu TGCh mewn addysg ledled Cymru. 


Yn fwyaf diweddar, gwasanaethodd Mr Britten fel Pennaeth Ysgol Y Deri o 2009, un o'r ysgolion anghenion dysgu ychwanegol mwyaf yn y DU. 


O dan ei arweiniad, enillodd yr ysgol gydnabyddiaeth eang, gan gynnwys yn y gyfres ddogfen glodwiw BBC A Special School, a oedd yn arddangos cyflawniadau a phrofiadau disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). 


Drwy gydol ei yrfa, mae Mr Britten wedi bod yn eiriolwr lleisiol dros blant a phobl ifanc ag ADY, gan hyrwyddo eu potensial a sicrhau eu bod yn cael pob cyfle i lwyddo. 


Dywedodd Mr Britten: “Daeth hyn allan o ‘nunlle. Rwy'n hynod falch ac yn gyffrous bod fy ngwaith wedi cael ei gydnabod fel hyn. Fodd bynnag, mae'r anrhydedd hwn hefyd i'r bobl syfrdanol rydw i wedi cael y fraint o weithio gyda nhw dros y blynyddoedd ac mae fy niolch calonog yn mynd iddynt hefyd. Mae gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol wedi bod yn angerdd i mi am y 15 mlynedd diwethaf ac rwy'n teimlo bod yr anrhydedd hwn hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y sector hwn.” 


Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, Celf a'r Iaith Gymraeg: “Rwy'n siŵr y bydd y rhai sydd wedi gweithio gyda Chris yn ymuno â mi i ddymuno llongyfarchiadau enfawr iddo ar yr anrhydedd hwn. 


“Mae ei ymroddiad i addysg, yn enwedig i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, wedi gwneud gwahaniaeth dwys i fywydau di-ri. Mae arweinyddiaeth Chris yn Ysgol Y Deri a'i gyfraniad ehangach i addysg ledled Cymru yn wirioneddol eithriadol, ac mae'r gydnabyddiaeth hon yn haeddiannol iawn.”