Gofalwyr maeth ym Mro Morgannwg yn rhannu eiliadau 'arwyddocaol' ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth
Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, siarad am eu diwrnod, gofyn am wylio ffilm; mae'r rhain yn eiliadau y gallai llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth yng Nghymru, maen nhw’n symbol o un peth – datblygiad.
Mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Gallai hyn gynnwys ymddygiad fel gorbryder, cau eu hunain yn emosiynol, ymatebion dwys neu anhawster o ran dilyn rheolau.
Mae arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Maethu Cymru wedi canfod bod tua 80% o'r gofalwyr a holwyd wedi cefnogi plant sy'n dangos ymddygiad fel hyn. Er bod yr heriau hyn yn gallu bod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd hefyd eu bod nhw wedi sylwi ar ddatblygiad ystyrlon o fewn y chwe mis cyntaf.
Rhannodd gofalwyr maeth fod yr eiliadau arwyddocaol hyn yn aml yn digwydd o gwmpas eiliadau bach o gysylltiad, ond maen nhw'n cynrychioli mwy na hynny: i blant mewn gofal, mae'n golygu eu bod nhw wedi gwneud cynnydd, maen nhw wedi dechrau teimlo'n ddiogel, maen nhw wedi dechrau gwella, teimlo eu bod nhw’n cael eu caru a theimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi ar ôl trawma yn ystod plentyndod.
Ar ôl profiad, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd bron pob gofalwr (93%) eu bod nhw bellach yn hyderus wrth ymateb i ymddygiad sy'n gysylltiedig â thrawma.
Mae'r canfyddiadau'n cael eu rhyddhau ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch flynyddol fwyaf y DU i godi ymwybyddiaeth o faethu, sy'n cael ei chynnal bob mis Mai. Mae’r thema eleni, Dyma yw Maethu, yn taflu goleuni ar brofiadau gwirioneddol gofalwyr maeth a'r rôl hanfodol maen nhw’n ei chwarae wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel.
Roedd gofalwr maeth o Fro Morgannwg ymhlith y 120 o ofalwyr a ymatebodd i arolwg Maethu Cymru, gan rannu rhai o'r cerrig milltir bach ond pwerus sy'n golygu fwyaf iddynt: "Roedd yna adegau lle roeddwn i'n meddwl bod pethau'n dechrau newid mewn gwirionedd a'u bod yn dechrau setlo, gan gynnwys y tro cyntaf iddynt ofyn am gwtsh, a dweud 'Rwy'n ymddiried ynot ti,'. Roedd yn hyfryd eu gweld nhw'n ymlacio ac yn gwenu ac yn dewis eistedd wrth ein hymyl i wylio ffilm."
Dywedodd Ceri O'Dare, Rheolwr Gweithredol y Gwasanaeth Plant sy'n Derbyn Gofal yng Nghyngor Bro Morgannwg: "Mae Maethu Cymru Bro Morgannwg yn falch o'i ofalwyr maeth ymroddedig ac mae’n falch o’u gweld yn gwneud defnydd da o'r adnoddau sydd ar gael.
“Mae'r gefnogaeth hon yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant, yn enwedig wrth fynd i'r afael â heriau cymhleth fel trawma yn ystod plentyndod. Mae'r adborth yn tynnu sylw at ba mor hanfodol a gwerthfawr yw cefnogaeth leol ac yn atgyfnerthu ymrwymiad y sefydliad i sefyll ochr yn ochr â gofalwyr trwy bob cam o'u taith faethu."
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i bromorgannwg.maethucymru.llyw.cymru/
Y Pythefnos Gofal Maeth hwn, gallwch gwrdd â'ch tîm Maethu lleol yn:
Wilmores Café, Penarth, Dydd Gwener 15 Mai 2026, 10yb – 12yp
Gŵyl Fach y Fro, Ynys y Barri, Dydd Sadwrn 16 Mai 2026, 11yb-5yp
Sesiwn Wybodaeth Ar-lein, Dydd Mercher 20 Mai 2026, 7yp – 8yp. Cadwch eich lle yma.