Llyfrgelloedd y Fro a’r Lle Creu yn Lansio Prosiect Artist Preswyl gydag Arcade Campfa
Mae Llyfrgelloedd Cyngor Bro Morgannwg a’r Lle Creu yn falch iawn o gyhoeddi lansiad prosiect Artist Preswyl newydd ar y cyd â'r cymuned celfyddydau gweledol Arcade Campfa.
Yn rhedeg drwy gydol mis Ebrill tan fis Mehefin - gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru - mae'r prosiect yn dod â dau artist i lyfrgelloedd ym Mhenarth a'r Barri i weithio'n agos gyda chymunedau lleol.
Bydd y preswyliadau yn dod i ben gyda digwyddiadau lansio cyhoeddus ym mis Mehefin i arddangos gwaith terfynol yr artistiaid.
Yr artistiaid a ddewiswyd ar gyfer y rhaglen eleni yw:
Dela Anderson — Preswyliad Print - yn mynd i archwilio themâu cof a lle yn y Fro. Dywedodd Dela: “Yn ystod fy mhreswyliad byddaf yn archwilio hiraeth am fannau hamdden coll yn y Barri a Phenarth. Gan ymgysylltu â llenyddiaeth leol, delweddau archifol a hanesion llafar, byddaf yn cynhyrchu zine printiedig risograph sy'n adlewyrchu ar ein perthynas â hamdden a gofod cyhoeddus.”
Mab Jones — Preswyliad Gwneuthurwr – yn mynd i wahodd cyfranogiad cymunedol drwy ysgrifennu creadigol a gwneud. Dywedodd Mab: “Mae ‘Your Words Belong Here Too’ yn breswyliad barddoniaeth gyfranogol sy'n trawsnewid geiriau a gyfrannir gan y gymuned yn ddarnau testun gwisgadwy a gosodiadau tyfu gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau tecstilau wedi'u hadennill. Bydd y prosiect yn dod i ben gyda digwyddiad rhannu cymunedol.”
Mae'r fenter gyffrous hon yn tynnu sylw at rôl flaenllaw llyfrgelloedd fel mannau diwylliannol deinamig, gan feithrin creadigrwydd, cydweithio, ac ymgysylltu â'r gymuned drwy gyfleoedd fel y rhaglen Artist Preswyl ar draws Bro Morgannwg.
Dywedodd Jordan Forse, Rheolwr Llyfrgelloedd a Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Bro Morgannwg: “Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth ag Arcade Campfa a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddod â'r rhaglen Artist Preswyl gyffrous hon i'n llyfrgelloedd. Mae'r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gefnogi creadigrwydd ar lefel leol a darparu cyfleoedd ystyrlon i bobl ymgysylltu â'r celfyddydau mewn mannau hygyrch a chroesawgar.
“Drwy weithio'n uniongyrchol gydag artistiaid, gall defnyddwyr llyfrgell gymryd rhan mewn prosesau creadigol, rhannu eu profiadau eu hunain, a chyfrannu at waith newydd sydd wedi'i wreiddio yng nghymunedau'r Barri a Phenarth. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu'r canlyniadau gyda'r cyhoedd yn y digwyddiadau arddangos terfynol.”