Cyngor i ddechrau treial gwefru EV ar gyfer preswylwyr heb rodfeydd
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn treialu system sy'n caniatáu i drigolion i wefru cerbydau trydan yn ddiogel o'u cartrefi heb barcio oddi ar y stryd.
Cymeradwywyd y Treial Gwefru Cerbydau Trydan Trawsbalmant yn ddiweddar gan Gabinet yr Awdurdod a bydd yn cael ei asesu dros gyfnod o 12 mis.
Gall preswylwyr wneud cais i osod sianeli gwefru cymeradwy ar draws y palmant y tu allan i'w heiddo.
Mae'r rhain yn darparu llwybr diogel ar gyfer gwefru ceblau, gan helpu pobl i wefru cerbydau o gyflenwad pŵer eu heiddo tra'n cadw palmentydd yn ddiogel ac yn hygyrch.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: “Mae'r newid i gerbydau trydan yn rhan bwysig o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ond gwyddom fod preswylwyr heb rodfeydd yn wynebu heriau o ran gwefru eu cerbydau gartref.
“Mae'r cynllun peilot hwn yn cynnig opsiwn diogel ac ymarferol i bobl yn y sefyllfa hon tra'n sicrhau bod ein palmentydd yn parhau i fod yn hygyrch i bawb, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn, pobl â nam ar eu golwg a'r rhai sy'n defnyddio cadeiriau gwthio.
“Drwy gyflwyno'r cynllun ar sail prawf, gallwn asesu'r galw, deall sut mae'n gweithredu'n ymarferol a chasglu tystiolaeth i helpu i arwain polisi'r dyfodol.
“Mae'r fenter hon nid yn unig yn cefnogi Prosiect Sero, ymrwymiad y Cyngor i ddod yn garbon niwtral, mae hefyd yn diogelu ein seilwaith priffyrdd ac yn cadw ei holl ddefnyddwyr yn ddiogel.”
Bydd y cynllun yn helpu i ateb y galw cynyddol gan drigolion sy'n dibynnu ar barcio ar y stryd ac sy'n chwilio am ddewisiadau amgen ymarferol yn lle mannau gwefru cyhoeddus. Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu gan Dîm Priffyrdd y Cyngor, gyda hygyrchedd, effeithiau amgylcheddol ac amodau lleol ymhlith y ffactorau a ystyrir fel rhan o'r broses honno.
Bydd y costau sy'n gysylltiedig â gosod, cynnal a chadw, ac unrhyw gymeradwyaethau statudol yn cael eu talu gan ymgeiswyr.
Mae'r systemau gwefru traws-balmant yn eistedd gyferbyn i wyneb y palmant ac yn caniatáu i geblau gwefru gael eu cyfeirio'n ddiogel rhwng eiddo a cherbyd sydd wedi'i barcio ar y ffordd.
Nid yw'r cynllun yn creu lleoedd parcio pwrpasol nac yn rhoi hawliau unigryw i barcio y tu allan i eiddo.
Y gobaith yw y gall ceisiadau ddechrau cael eu derbyn o Ionawr 1 ymlaen.
Ar ôl y treial 12 mis, bydd canfyddiadau'n cael eu hadolygu a bydd penderfyniad yn cael eu cymryd ar y ffordd orau ymlaen.