Gwasanaeth cymorth i breswylwyr â namau golwg a'r clyw i barhau
Bydd gwasanaeth cymorth arbenigol i oedolion sydd â cholled golwg a chlyw yn parhau ledled Bro Morgannwg.
Cymeradwyodd Cabinet y Cyngor gynigion iddo aros yn eu lle am dair blynedd arall, gyda'r opsiwn i'w ymestyn tair arall.
Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth ymarferol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl sy'n ddall, yn rhannol ddall, â nam difrifol ar eu golwg neu sy'n dioddef colled clyw.
Mae'n eu helpu i fyw'n annibynnol, cynnal lles ac aros yn gysylltiedig â'u cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Gall pobl sy'n byw gyda cholled golwg neu nam ar eu clyw wynebu heriau sylweddol yn ddyddiol, o gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau i gynnal cysylltiadau cymdeithasol ac annibyniaeth. Mae'r gwasanaeth hwn yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i oresgyn y rhwystrau hyn i fyw bywydau boddhaus.
“Mae'n cefnogi rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymunedau drwy ddarparu cyngor arbenigol, cymorth adsefydlu ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae hefyd yn helpu pobl i aros yn egnïol, yn gysylltiedig ac yn annibynnol tra'n rhoi hwb i'w hiechyd a'u lles.
“Mae cefnogi grwpiau fel hyn yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor ac yn nodwedd ganolog o'n cynllun pum mlynedd, Bro 2030.
“Drwy fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar a darpariaeth atal, rydym yn helpu pobl i aros yn annibynnol am gyfnod hirach ac yn lleihau'r risg o arwahanrwydd ac unigrwydd.”
Bydd Sight Cymru yn parhau i weithredu'r gwasanaeth, sy'n cynnig cymorth wedi'i deilwra i anghenion unigol.
Ymhlith nodweddion eraill, mae'n helpu pobl i ddefnyddio technoleg gynorthwyol i chwalu rhwystrau a hefyd yn rhoi cyngor a sicrwydd i deuluoedd a gofalwyr.