Cyngor y Fro yn mynd i'r afael â strydoedd gludiog
Mae tîmau Strydlun newydd Cyngor Bro Morgannwg yn mynd i'r afael â staeniau gwm cnoi ystyfnig ar balmentydd, yn dilyn cyllid newydd drwy Dasglu Gwm Cnoi Cadwch Brydain yn Daclus.
Mae'r grant wedi galluogi'r Cyngor i lansio prosiect glanhau palmantydd, gan ddefnyddio peiriannau arbenigol a datrysiadau glanhau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd i gael gwared ar gwm cnoi o fannau cyhoeddus prysur.
Yn 2026, gwnaeth 78 o gynghorau gais am gyllid drwy'r cynllun, gyda 50 o ymgeiswyr llwyddiannus. Roedd Bro Morgannwg yn un o bum cyngor yn unig yng Nghymru i dderbyn grant ac yn un o 16 cyngor i sicrhau cyllid am y tro cyntaf.
Mae'r fenter wedi'i hariannu'n gyfan gwbl gan grantiau ac fe'i cefnogir gan brif wneuthurwyr gwm cnoi i helpu awdurdodau lleol i fynd i'r afael â sbwriel gwm cnoi
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu: “Mae cadw ein strydoedd a'n mannau cyhoeddus yn lân ac yn groesawgar yn rhan bwysig o wneud ein cymunedau yn llefydd gwych i fyw, gweithio ac ymweld â nhw. Mae'r cynllun newydd hwn wedi darparu'r offer a'r adnoddau arbenigol sydd eu hangen ar ein tîm Street Scene i fynd i'r afael â staeniau gwm cnoi ystyfnig yn fwy effeithiol.
“Rydym yn falch iawn o fod wedi sicrhau'r grant hwn, yn enwedig fel un o ddim ond pum cyngor yng Nghymru i elwa eleni, gan y bydd yn ein helpu i wella ymddangosiad ein cymunedau drwy ddefnyddio cyllid allanol, yn hytrach na rhoi pwysau ychwanegol ar gyllidebau craidd y Cyngor.
“Gall pawb chwarae rhan i gadw'r Fro yn daclus drwy lapio eu gwm cnoi mewn papur a'i roi mewn bin sbwriel, neu fynd ag ef adref i'w waredu.”
Mae'r rhaglen lanhau yn cymryd dull fesul cam, gan ganolbwyntio i ddechrau ar ardaloedd troed uchel yng nghanol trefi, ac ardaloedd siopa prysur lle mae gwm cnoi yn fwyaf amlwg.
Gan nad yw'n bosibl glanhau pob stryd ar unwaith, bydd tîmau Stydlun yn gweithio'n systematig drwy'r ardaloedd hyn dros yr wythnosau nesaf.
Dyma'r eitem diweddaraf mewn cyfres o brosiectau llwyddiannus a gyflwynir gan ein tîm Strydlun newydd, gan helpu i gadw ein trefi a'n pentrefi ar draws y Fro yn edrych ar eu gorau.