Pum Ysgol yn y Fro yn cael eu Cydnabod fel Ysgolion Noddfa
Mae pum ysgol gynradd ym Mro Morgannwg wedi cael eu cydnabod fel Ysgolion Noddfa, gan ddathlu eu hymrwymiad i greu amgylcheddau croesawgar, cynhwysol lle mae pob plentyn yn teimlo'n ddiogel, yn cael ei werthfawrogi ac yn gallu ffynnu.
Yr ysgolion diweddaraf i ennill y wobr genedlaethol yw:
- Ysgol Gynradd Dewi Sant
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseph
- Ysgol Gynradd Sant Illtyd
- Ysgol Gynradd Y Ddraig
- Ysgol Gynradd Pendoylan
Mae gwobr Ysgolion Noddfa yn cydnabod ysgolion sy'n mynd uwchlaw a thu hwnt i feithrin diwylliant o groeso, dealltwriaeth a pherthyn.
Mae'r rhaglen yn cydnabod y gallai llawer o blant profi anawsterau neu angen cymorth ychwanegol wrth addasu i amgylchedd newydd – os ydynt o deuluoedd milwrol sy'n symud i'r ardal, wedi cyrraedd y DU yn ddiweddar ar ôl ffoi rhag gwrthdaro neu amgylchiadau anodd, yn mynd i ofal, neu'n wynebu newidiadau sylweddol eraill yn eu bywydau.
Er mwyn cyflawni'r wobr, rhaid i ysgolion ddangos eu hymrwymiad drwy helpu disgyblion, staff a'r gymuned ehangach i ddeall profiadau pobl y mae eu bywydau wedi cael eu hamharu yn well, tra'n ymgorffori arferion cynhwysol ar draws bywyd ysgol.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Iaith Gymraeg: “Mae ysgolion yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu plant i deimlo'n ddiogel, teimlo eu bod yn cael eu parchu a'u cynnwys. Drwy ddod yn Ysgolion Noddfa, mae'r ysgolion hyn wedi dangos ymrwymiad eithriadol i greu amgylcheddau croesawgar lle gall pob disgybl ffynnu a theimlo'n ddiogel.
“Rydym yn hynod falch o gefnogi ysgolion sy'n hyrwyddo caredigrwydd, tosturi a dealltwriaeth, gan helpu i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cynhwysol i bawb.”
Mae gwobrau Ysgolion Noddfa yn ffurfio rhan o ymrwymiad ehangach Cyngor Bro Morgannwg i gefnogi ysgolion i greu amgylcheddau dysgu cynhwysol, cydradd lle mae pob dysgwr yn teimlo fel ei fod yn perthyn.