Cost of Living Support Icon

Cynllun Peilot Mapio Cymunedol

Fel rhan o’r cynllun peilot, mae’r Tîm Cymunedau Gwledig Creadigol wedi datblygu pecyn cymorth i gynorthwyo cymunedau i ymgysylltu a darganfod beth sy’n digwydd yn eu cymunedau.

 

Mae’n ganllaw hawdd ei ddefnyddio i gynorthwyo cymunedau i ddeall a chymryd rhan yn y broses mapio cymunedol. 

 

Nod y pecyn yw darparu trosolwg ar bob agwedd ar fapio cymunedol gan gynnwys:

  • Cyn mapio – gwaith ymchwil, fframwaith a datblygiad rhwydwaith cymunedol 
  • Mapio – cwblhau’r gwaith mapio gydag awgrymiadau am wahanol ffyrdd o ymgysylltu gyda’r gymuned
  • Bwrw ymlaen â chamau gweithredu a chynnal momentwm 

Mae’r atodiadau yn rhoi canllawiau manwl ar ddatblygu cynllun ymgysylltu cymunedol, paratoi digwyddiad ymgysylltu cymunedol, syniadau am weithgareddau mapio cymunedol ac esiampl o arolwg cymunedol.  Efallai y carech ddewis rhai gweithgareddau neu syniadau oblith y pecyn cymorth a all fod o ddefnydd i’ch cymuned. 

 

Mae’n bwysig i chi fod yn hyblyg o safbwynt ymgysylltu cymunedol oherwydd efallai y bydd angen gwahanol ddulliau ar gyfer gwahanol grwpiau a chymunedau ar broject penodol.

 

community mapping - group discussion

Lawrlwytho’r Pecyn Cymorth

Rydym yn gwahodd cymunedau yn y Fro i dreialu’r pecyn cymorth a chynnig adborth, felly pam na wnewch chi lawrlwytho’r pecyn cymorth a rhoi cynnig arni!

 

Pecyn cymorth mapio cymunedol*

 

Atodiad 1: Datblygu Cynllun Ymgysylltu Cymunedol*

 

Atodiad 2 : Paratoi ar gyfer Digwyddiad Ymgysylltu Cymunedol* 

 

Atodiad 3: Gweithgareddau Mapio Cymunedol*

 

Atodiad 4: Arolwg Cymunedol Sampl – Arolwg Cymunedol Sain Tathan* 

*Mae'r dogfennau hyn yn Saesneg yn unig 

 

Adborth 

Dogfen ddrafft yw’r pecyn cymorth ar hyn o bryd ac rydym yn gwahodd cymunedau yn y Fro i dreialu’r pecyn cymorth a chynnig adborth i’r tîm CGC.  Os oes unrhyw adborth gennych, cysylltwch â: