Cost of Living Support Icon

 Fforwm Strategaeth 50+ Bro Morgannwg 

Vale_50_Plus_Logo

Fforwm Strategaeth 50+ Bro Morgannwg yw fforwm pobl hŷn Bro Morgannwg. 

 

Beth mae'r Fforwm yn ei wneud?

Mae'r Fforwm yn gweithio i sicrhau bod llais ac anghenion pobl hŷn yn cael eu hystyried yn lleol ac yn genedlaethol. Mae'r Fforwm yn gwneud hyn drwy ymateb yn weithredol i ymgynghoriadau, darparu heriau a lleisio pryderon, cael cynrychiolwyr ar nifer o grwpiau lleol a chenedlaethol a chynnal digwyddiadau cymunedol i glywed yn uniongyrchol gan drigolion lleol. 

 

Ar hyn o bryd mae gan y Fforwm gynrychiolwyr ar y grwpiau canlynol:

 

  • Cynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA)

  • Grŵp Cydlyniant Cymunedol Bro Ddiogelach

  • Fforwm Pobl Hŷn Cymru

  • Gofal a Thrwsio Caerdydd a’r Fro

  • Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GGM)

  • Grŵp Heneiddio'n Dda Caerdydd a’r Fro

  • Fforwm Cydraddoldebau Bro Morgannwg

  • Grŵp Cymorth Iechyd Meddwl Cyn-filwyr Bro Morgannwg

 

 

Mae'r Fforwm yn bartner gweithredol yng ngwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg (BGC) Bro o Gyfleoedd i’r Henoed i helpu i wneud y Fro yn fan lle mae gan bobl hŷn hawliau, parch, cyfleoedd cyfartal a'r un mynediad at wasanaethau â gweddill y boblogaeth. Drwy weithio gyda’i gilydd i ddod yn fwy oed-gyfeillgar, bydd yn gwneud y Fro yn lle mwy cyfeillgar i bawb, yn enwedig pobl hŷn. 


Gellir cael rhagor o wybodaeth am y gwaith i ddod yn Fro o Gyfleoedd i’r Henoed yma. 

 

Bro Oed-Gyfeillgar

 

 

Pwy Gaiff Ymuno?

Gall unrhyw un sy'n 50 oed neu'n hŷn sy'n byw/gweithio/gwirfoddoli yn y Fro ymuno â'r Fforwm. 

Digwyddiadau a Chyfarfodydd Sydd Ar Y Gorwel

Mae gan y Fforwm Fwrdd Gweithredol etholedig sy'n cyfarfod yn rheolaidd i lunio gwaith a ffocws y Fforwm ehangach. Mae holl gyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol ar agor i aelodau'r Fforwm ehangach ac aelodau'r cyhoedd fynychu i glywed gan y Bwrdd a'r siaradwyr gwadd.

 

Calendr Cyfarfodydd

Cysylltu â Ni

Gallwch gysylltu â'r Fforwm drwy e-bost OPF@valeofglamorgan.gov.uk neu dros y ffôn 01446 700111 

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Fforwm

 

Fforwm Strategaeth 50+ Bro Morgannwg