Cost of Living Support Icon

 

Old Harbour Header 

Awdurdod yr Harbwr - Polisi

 

 

Nid yw Hen Harbwr y Barri yn Harbwr sy'n derbyn cychod sy'n chwilio am lloches neu fel arall.

Os oes cychod neu longau mewn trafferth, dylid cysylltu â 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau a fydd yn eu cynghori ac yn cynnig cymorth.

Gall cychod a llongau gysylltu hefyd â Gwylwyr y Glannau ar Sianel 16.

 

Ynglŷn â Harbwr y Barri

Cyngor Bro Morgannwg yw'r perchennog ac mae'n rheoli'r tir a elwir "Yr Hen Harbwr", sydd wedi'i leoli yn y Barri. Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai yw'r adran sy'n gyfrifol am ac sy’n rheoli’r Hen Harbwr yn y Barri, ar ran Cyngor Bro Morgannwg.  

 

Polisi'r Harbwr

Nid yw'r Cyngor yn caniatáu i unrhyw gwch fynd i mewn i'r Harbwr heb ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor. Bydd unrhyw arhosiad anawdurdodedig yn arwain at gamau cyfreithiol.  

 

Ymholiadau'r Harbwr 

Os gofynnir am unrhyw wybodaeth am yr Hen Harbwr, dylid gwneud ymholiadau o'r fath trwy'r cyfeiriad e-bost canlynol:

 

 

Dylai ymholiadau gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl a hefyd gynnwys y wybodaeth gyswllt ganlynol.

 

  • Enw'r person sy'n holi

  • Ei gyfeiriad cartref

  • Cyfeiriad e-bost ymateb

 

Os penderfynwch beidio â rhoi’r wybodaeth uchod, efallai y bydd oedi yn yr ymateb, os bydd ymateb o gwbl.

 

Angori yn yr Harbwr

Cofiwch nad oes gan Hen Harbwr y Barri unrhyw angorfeydd yn yr harbwr. I angori cychod neu longau, mae'r opsiynau isod ar gael.

 

Nid yw'r harbyrau hyn yn cael eu hardystio gan y Cyngor. Bydd angen caniatâd mynediad ar gyfer pob un a bydd polisïau a rheolau pob harbwr yn berthnasol.

 

Harbwr Bryste


Harbwr Caerdydd


Clwb Hwylio Caerdydd


Marina Aberdaugleddau

  • 01646 696 312 

Porthladd Penfro


Marina Abertawe

 

Cofiwch na chaiff unrhyw gwch fynd i mewn i Hen Harbwr y Barri heb ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor. Bydd unrhyw arhosiad anawdurdodedig yn arwain at gamau cyfreithiol.  

 

 Old Harbour Circle